"parents.intro":"Mae Scratch yn iaith raglennu ac yn gymuned ar-lein lle mae plant\n yn gallu rhaglennu a rhannu cyfryngau rhyngweithiol fel straeon, gemau ac\nanimeiddio gyda phobl o bob cwr o'r byd. Wrth i blant greu gyda\nScratch, maen nhw'n dysgu meddwl yn greadigol, gweithio ar y cyd, a\nrhesymu'n systematig. Mae Scratch wedi'i ddylunio, ei ddatblygu, a'i gymedroli gan y {scratchFoundation}, sefydliad dim-er-elw.",
"parents.overviewLearningBody":"Mae Scratch yn amgylchedd dysgu diogel a chwareus sy'n ennyn diddordeb pob plentyn i feddwl yn greadigol, rhesymu yn systematig, a chydweithio — sgiliau hanfodol i bawb yn y gymdeithas heddiw. \nDarllenwch erthygl am y {creativeLearningApproach}",
"parents.overviewCommunityBody":"Rydym yn gofyn i gyfranwyr ar y wefan ddilyn y {communityGuidelines}.\nNid ydym y darparu manylion cyfrifon preifat i unrhyw un. Am ragor o wybodaeth, gw. y <a href=\"/info/faq/#privacy\">Polisi Preifatrwydd{privacyPolicy}.",
"parents.faqMoreAndAsk":"I ddysgu rhagor am Scratch, gw. {faqPage}.\nGallwch hefyd ofyn cwestiynau yn y {discussionForums}.\nOs oes angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'n staff, cliciwch {contactUs} ar waelod unrhyw dudalen.",
"parents.faqAgeRangeTitle":"Beth yw ystod oed Scratch?",
"parents.faqAgeRangeBody":"Cafodd Scratch ei ddatblygu'n arbennig ar gyfer pobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed, ond mae pobl o bob oed yn creu a rhannu projectau Scratch. Efallai yr hoffai plant ifanc defnyddio {scratchJr} fersiwn symlach o Scratch ar gyfer oed 5 i 7.",
"parents.faqResourcesTitle":"Pa adnoddau sydd ar gael ar gyfer dysgu Scratch?",
"parents.faqResourcesBody":"Os ydych chi'n cychwyn arni, mae yna {stepByStepGuide}ar gael o fewn Scratch. Am drosolwg o adnoddau Scratch, gw. tudalen {ideasPage}.",
"parents.faqIdeasLinkText":"Syniadau",
"parents.faqStepByStepGuideLinkText":"canllaw cam wrth gam",
"parents.faqCommunityTitle":"Beth yw cymuned ar-lein Scratch?",
"parents.faqCommunityBody":"Wrth gymryd rhan yng nghymuned ar-lein Scratch, gall aelodau ddarganfod ac arbrofi mewn cymuned dysgu agored gydag aelodau eraill Scratch o bob cefndir, oed a diddordebau. Gall aelodau rannu eu gwaith, derbyn adborth a dysgu gan ei gilydd.",
"parents.faqGuidelinesTitle":"Beth yw'r canllawiau ar gyfer cymuned ar-lein Scratch?",
"parents.faqGuidelinesBody":"Mae'r Tîm Scratch yn gweithio gyda'r gymuned i gynnal amgylchedd cyfeillgar a pharchus i bobl o bob oed, hil, ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaethau rhyw. Gallwch chi helpu'ch plentyn i ddysgu sut i gymryd rhan trwy ddarllen y {communityGuidelines} gyda'ch gilydd. Rydym yn gofyn i aelodau wneud sylwadau adeiladol a helpu i gadw'r wefan yn gyfeillgar trwy adrodd ar unrhyw gynnwys nad yw'n dilyn y Canllawiau Cymunedol. Mae Tîm Scratch yn gweithio'n ddyddiol i reoli gweithgaredd ar y wefan ac ymateb i adroddiadau, gyda chymorth offer fel yr hidlydd cabledd {CleanSpeak}.",
"parents.faqPrivacyPolicyTitle":"Beth yw eich polisi preifatrwydd?",
"parents.faqPrivacyPolicyBody":"Er mwyn diogelu preifatrwydd plant ar-lein, rydym yn cyfyngu ar beth rydym yn ei gasglu yn ystod y broses gofrestru a beth rydym yn ei roi yn gyhoeddus ar y wefan. Nid ydym yn gwerthu nac yn rhentu manylion cyfrifon i unrhyw un. Mae mwy i'w weld am ein polisi preifatrwydd ar ein tudalen {privacyPolicy}.",
"parents.faqOfflineBody":"Mae ap Scratch yn caniatáu i chi greu projectau Scratch heb gysylltiad â'r rhyngrwyd. Gallwch lwytho {scratchApp} i lawr o'r wefan neu storfa apiau eich dyfais. ",