"conference-2017.desc":"Eleni, er mwyn dathlu pen-blwydd Scratch yn 10 oed, mae cymuned fyd-eang Scratch yn cynnal cynadleddau rhanbarthol mewn llawer o ddinasoedd ledled y byd",
"conference-2017.seeBelow":"Dysgwch ragor am ddyddiadau a lleoliadau cynadleddau isod.",
"conference-2017.franceDesc":"Mae Scratch2017BDX yn gyfle i gyfarfod â phobl a rhannu syniadau, ysbrydoli a chael eich ysbrydoli. Mae'n ŵyl fyd-eang i ddathlu creadigrwydd a mwynhau darganfyddiadau a dealltwriaeth am Scratch a thu hwnt.",
"conference-2017.brasilTitle":"Conferência Scratch Brasil 2017",
"conference-2017.brasilDesc":"Bydd Cynhadledd Scratch Brasil 2017 yn fan cyfarfod ar gyfer addysgwyr, ymchwilwyr, datblygwyr a chrewyr sydd â diddordeb mewn creu, rhannu a dysgu gyda Scratch. Bydd y gynhadledd yn annog trafodaethau am ddefnyddio Scratch o fewn ac oddi allan i'r ystafell ddosbarth, cyfrifiadura creadigol, estyniadau Scratch a themâu pwysig eraill yn perthyn i'r defnydd o Scratch ym Mrasil. Rydym yn cynllunio gŵyl gyda'r pwyslais ar gymryd rhan, gyda llawer o weithdai ymarferol, sesiynau posteri a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu.",
"conference-2017.brasilAudience":"Addysgwyr, ymchwilwyr, datblygwyr, a gwneuthurwyr",
"conference-2017.hungaryDesc":"Mae'r Gynhadledd Scratch yn Budapest yn gyfle unigryw i gwrdd â'n teulu Scratch estynedig a thyfu ac ysbrydoli ei gilydd. Mae'n ofod i ymhyfrydu mewn meddwl yn greadigol a chodio, i blymio i mewn a rhannu'r holl bosibiliadau amrywiol rydyn ni wedi'u darganfod. Rydym yn asiantau newid - geeks go iawn yn ein genynnau - ac edrychwn ymlaen at dorchi llewys ein crys a chael rhywfaint o “hwyl galed”. Yn wir yn y maes hwn, mae'r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn ddisglair ac rydym wedi ein cyffroi. Dewch i gwrdd, a chydweithio ag aelodau eraill o'r gymuned Scratch.",
"conference-2017.chileDesc":"Mae Scratch al Sur 2017 yn gyfle i ddysgu am bwysigrwydd cyflwyno ieithoedd rhaglennu mewn ysgolion. Bydd pob darlith a gweithdy yn rhoi cyfle i rannu gwahanol brofiadau, o lefelau uwch i'r rhai sy'n dechrau cymryd rhan yng nghymuned fyd-eang Scratch.",
"conference-2017.chinaDesc":"Ymunwch â ni i ymgynnull i gefnogi mynegiant creadigol gyda Scratch yn Tsieina. Rhannwch ffyrdd o hyrwyddo dysgu gydag angerdd am raglennu, animeiddio, cymuned a bywyd.",
"conference-2017.costaricaTitle":"Cynhadledd Scratch Costa Rica",
"conference-2017.costaricaSubTitle":"Pobl, Projectau a Lleoedd",
"conference-2017.costaricaDesc":"Mae Cynhadledd Scratch Costa Rica yn ddigwyddiad byd-eang sy'n cael ei gynnal ar lefel gymunedol sy'n uno athrawon, myfyrwyr, busnesau ac arweinwyr, fel bod codio a dylunio yn rhan o addysg pob plentyn, gan ddechrau gyda Scratch.",
"conference-2017.costaricaAudience":"Defnyddwyr Scratch, athrawon, athrawon coleg, darpar Scratchwyr, myfyrwyr prifysgol (athrawon y dyfodol a datblygwyr meddalwedd) yn Costa Rica ac America Ladin sy'n siarad Sbaeneg."