"credits.moderators":"Mae tîm o gymedrolwyr Scratch yn rheoli, cefnogi a gwella cymuned ar-lein Scratch:",
"credits.previousTitle":"Aelodau Blaenorol Tîm MIT Scratch",
"credits.previousBody":"Mae llawer o gyfraniadau pwysig wedi eu gwneud gan aelodau blaenorol o Dîm Scratch, gan gynnwys John Maloney (fu'n arwain datblygiad y feddalwedd yn ystod degawd cyntaf Scratch), Andrés Monroy-Hernández (fu'n arwain datblygiad cymuned gwefan gyntaf Scratch). Ymhlith cyfranwyr eraill mae:",
"credits.partnersTitle":"Partneriaid Dylunio a Datblygu",
"credits.researchersIntro":"Mae ymchwil ar Scratch yn cael ei gynnal gan aelodau o Dîm Scratch MIT ac ymchwilwyr o brifysgolion eraill, gan gynnwys:",
"credits.partnersBody":"Paula Bontá a Brian Silverman, Playful Invention Company (wnaeth gychwyn cyfrannu tuag at gynllun Scratch cyn iddo gael ei alw'n Scratch).",
"credits.researchersTitle":"Ymchwilwyr Scratch",
"credits.researchersBody":"Mae {scratchResearchLink} ar Scratch yn cael ei gynnal gan aelodau o Dîm Scratch MIT ac ymchwilwyr o brifysgolion eraill, gan gynnwys:",
"credits.researchLinkText":"Ymchwil ar Scratch",
"credits.researchersContributors":"Yasmin Kafai (a gydweithiodd ar y {nsfLink}) yn yr University of Pennsylvania Graduate School of Education, Karen Brennan (sy'n arwain y {scratchEdLink}) yn yr Harvard Graduate School of Education, Benjamin Mako Hill yn yr University of Washington, Andrés Monroy Hernandez yn Microsoft Research, Mimi Ito a Crystle Martin yn yr University of California, Irvine, Quinn Burke yn y College of Charleston, Deborah Fields yn yr Utah State University, a Kylie Peppler yn Indiana University.",
"credits.acknowledgementsDonors":"Mae'r Scratch Foundation yn gorff nid-er-elw 501(c)(3) Americanaidd, sy'n dibynnu ar roddion y mae modd didynnu treth ohonyn nhw i gefnogi Scratch a'i gadw am ddim i bawb. Am restr o roddwyr i'r Scratch Foundation, ewch i {donorsLink}.",
"credits.acknowledgementsLifelongKindergarten":"Cychwynnodd y {lifelongKindergartenLink} project Scratch yn y MIT Media Lab yn 2002 a derbyniodd grant {nsfGrantLink} i'w gynnal yn y flwyddyn ganlynol. Lansiodd y grŵp Scratch yn gyhoeddus yn 2007 a'i ddatblygu hyd at 2019, pan symudodd y Scratch Team i'r Scratch Foundation. Mae'r grŵp Lifelong Kindergarten, o dan arweinyddiaeth yr Athro Mitchel Resnick, yn parhau i gydweithredu gyda'r Scratch Team i ymchwilio a chynnal dysgu creadigol gyda Scratch o amgylch y byd.",
"credits.acknowledgementsLanguageOrganizers":"Diolch yn fawr i'r trefnwyr iaith canlynol am ein cynorthwyo i gyd-drefnu cyfieithwyr yn eu hieithoedd:",
"credits.acknowledgementsCommunity":"Rydym yn gwerthfawrogi'r holl gyfraniadau gan aelodau o gymuned fyd-eang Scratch, sydd wedi ffurfio cyfeiriad Scratch drwy rannu eu projectau, sylwadau a syniadau.",
"credits.acknowledgementsInfluencers":"Mae syniadau Seymour Papert ac Alan Kay wedi ein hysbrydoli a dylanwadu'n drwm arnom ni yn ein gwaith ar Scratch.",
"credits.supportersTitle":"Cyrff sy'n ein Cefnogi",
"credits.supportersFinancialHeader":"Mae'r cyrff canlynol wedi darparu cefnogaeth ariannol sylweddol ar gyfer Scratch:",
"credits.supportersServicesHeader":"Mae'r cyrff canlynol yn cyfrannu eu gwasanaethau i gadw project Scratch ar ei draed:",
"credits.supportersOpenHeader":"Fyddai Scratch ddim yn bosibl heb feddalwedd rhydd a chod agored, gan gynnwys:",
"credits.currentSponsors":"Noddwyr Cyfredol",
"credits.currentFinancialSupport":"Mae'r cyrff canlynol wedi darparu cefnogaeth ariannol sylweddol ar gyfer Scratch:",
"credits.acknowledgementsSounds":"Mae llyfrgell sain Scratch yn defnyddio adnoddau rhad ac am ddim gan Adobe.com, Archive.org, FreeMusicArchive.org, FreeSound.org, ac Incompetech.com.",
"credits.soundsThanks":"Diolch i Nina Paley o Archive.org; Kellee Maize, Peter Rudenko, a Chris Zabriskie o FreeMusicArchive.org; a Kevin MacLeod o Incompetech.com. Diolch i'r artistiaid canlynol o freesound.org:"