mirror of
https://github.com/scratchfoundation/scratch-l10n.git
synced 2024-12-23 06:02:42 -05:00
11 lines
No EOL
1.9 KiB
JSON
11 lines
No EOL
1.9 KiB
JSON
{
|
|
"ethics.title": "Cod Moeseg Ymchwil y Scratch Foundation",
|
|
"ethics.intro1": "Yn y Scratch Foundation, ein cenhadaeth yw darparu offer digidol a chyfleoedd teg i bobl ifanc ddychmygu, creu, rhannu a dysgu. Mae platfform Scratch yn amgylchedd dysgu diogel, chwareus ac am ddim sy'n ennyn diddordeb pob plentyn i feddwl yn greadigol, rhesymu yn systematig, a chydweithio - sgiliau hanfodol i bawb yn y gymdeithas heddiw. Rydym yn gweithio gydag addysgwyr a theuluoedd i gefnogi plant yn yr amgylchedd dysgu chwareus hwn.",
|
|
"ethics.intro2": "Mae'r Cod Moeseg hwn yn tywys gweithwyr a chysylltiadau'r Scratch Foundation wrth iddyn nhw gynnal ymchwil a gwerthuso i gefnogi'r ymdrechion i wella'r platfform, profiad y defnyddiwr, canlyniadau addysgu a dysgu, a gwaith sy'n cael ei ariannu gan grant. Mae'r holl waith ymchwil a gwerthuso yn y Foundation yn cadw at yr egwyddorion canlynol.",
|
|
"ethics.principle1Title": "Egwyddor 1: Diogelu ein defnyddwyr.",
|
|
"ethics.principle1": "{title} Mae gweithwyr a chontractwyr y Scratch Foundation yn parchu preifatrwydd a chyfrinachedd defnyddwyr. Ni fydd gweithwyr a chontractwyr yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am unrhyw ddefnyddiwr heb ganiatâd y defnyddiwr neu (os yw'n blentyn dan oed) rhiant neu warcheidwad y defnyddiwr.",
|
|
"ethics.principle2Title": "Egwyddor 2: Arwain gyda gonestrwydd.",
|
|
"ethics.principle2": "{title} Wrth gasglu data, bydd staff a chontractwyr y Foundation yn datgelu'r amcan, y rhesymeg, y ffyrdd yr ydym yn diogelu data, a manylion cyswllt perthnasol y Foundation i unrhyw un sy'n gofyn am y wybodaeth honno.",
|
|
"ethics.principle3Title": "Egwyddor 3. Cadw at y gyfraith.",
|
|
"ethics.principle3": "{title} Bydd staff a chontractwyr y Foundation yn cadw at ysbryd a llythyren y gyfraith, yn enwedig o ran polisïau preifatrwydd digidol fel (ond heb fod yn gyfyngedig i) Bolisi Preifatrwydd Scratch a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)."
|
|
} |