scratch-l10n/www/scratch-website.ethics-l10njson/cy.json
2022-02-03 03:14:11 +00:00

11 lines
No EOL
2.3 KiB
JSON
Raw Blame History

This file contains ambiguous Unicode characters

This file contains Unicode characters that might be confused with other characters. If you think that this is intentional, you can safely ignore this warning. Use the Escape button to reveal them.

{
"ethics.title": "Cod Moeseg Ymchwil y Scratch Foundation",
"ethics.intro1": "Yn y Scratch Foundation, ein cenhadaeth yw darparu offer digidol a chyfleoedd teg i bobl ifanc ddychmygu, creu, rhannu a dysgu. Mae platfform Scratch yn amgylchedd dysgu diogel, chwareus ac am ddim sy'n ennyn diddordeb pob plentyn i feddwl yn greadigol, rhesymu yn systematig, a chydweithio - sgiliau hanfodol i bawb yn y gymdeithas heddiw. Rydym yn gweithio gydag addysgwyr a theuluoedd i gefnogi plant yn yr amgylchedd dysgu chwareus hwn.",
"ethics.intro2": "Mae'r Cod Moeseg hwn yn tywys gweithwyr a chysylltiadau'r Scratch Foundation wrth iddyn nhw gynnal ymchwil a gwerthuso i gefnogi'r ymdrechion i wella'r platfform, profiad y defnyddiwr, canlyniadau addysgu a dysgu, a gwaith sy'n cael ei ariannu gan grant. Mae'r holl waith ymchwil a gwerthuso yn y Foundation yn cadw at yr egwyddorion canlynol.",
"ethics.principle1Title": "Egwyddor 1: Diogelu ein cyfranogwyr.",
"ethics.principle1": "{title} Mae gweithwyr a chontractwyr Scratch Foundation yn parchu preifatrwydd a chyfrinachedd y cyfranogwyr. Ni fydd gweithwyr a chontractwyr yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy am unrhyw gyfranogwr heb ganiatâd y cyfranogwr ac (os ywn blentyn dan oed) rhiant neu warcheidwad y cyfranogwr. Yn ogystal, byddwn yn osgoi achosi niwed i gyfranogwyr ac yn ceisio sicrhau'r buddion mwyaf posibl o gyfranogiad. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil bob amser yn wirfoddol; cysylltwch â ni yn {researchEmailLink} er mwyn eich eithrio.",
"ethics.principle2Title": "Egwyddor 2: Arwain gyda thryloywder.",
"ethics.principle2": "{title} Wrth gasglu data, bydd staff y Foundation a chontractwyr yn datgelu'r amcan, gofynion cyfranogiad (gan gynnwys amser ac ymdrech), unrhyw risgiau posibl sy'n gysylltiedig â chyfranogiad, ffyrdd y byddwn yn diogelu ac adrodd ar y data, ffyrdd y gall cyfranogwyr eithrio eu hunain, a manylion gyswllt perthnasol y Foundation.",
"ethics.principle3Title": "Egwyddor 3. Sicrhau stiwardiaeth data.",
"ethics.principle3": "{title} Bydd staff y Foundation a chontractwyr yn sicrhau diogelwch data a chydymffurfiaeth â pholisïau preifatrwydd digidol megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) Polisi Preifatrwydd Scratch a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)."
}