mirror of
https://github.com/scratchfoundation/scratch-l10n.git
synced 2025-01-09 14:12:47 -05:00
40 lines
No EOL
5.9 KiB
JSON
40 lines
No EOL
5.9 KiB
JSON
{
|
||
"guidelines.title": "Canllawiau Cymunedol Scratch",
|
||
"guidelines.header1": "Mae Scratch yn gymuned gyfeillgar a chroesawgar i bawb, lle mae pobl yn creu, rhannu a dysgu gyda'i gilydd.",
|
||
"guidelines.header2": "Rydym yn croesawu pobl o bob oed, hil, ethnigrwydd, crefydd, gallu, tueddfryd rhywiol a hunaniaethau rhywiol.",
|
||
"guidelines.header3": "Helpwch i gadw Scratch yn ofod croesawgar, cefnogol a chreadigol i bawb trwy ddilyn y Canllawiau Cymunedol hyn:",
|
||
"guidelines.respectheader": "Trin pawb â pharch.",
|
||
"guidelines.respectbody1": "Mae gan y Scratchers gefndiroedd, diddordebau, hunaniaethau a phrofiadau amrywiol.",
|
||
"guidelines.respectbody2": "Mae pawb ar Scratch yn cael eu hannog i rannu pethau sy’n eu cyffroi ac sy’n bwysig iddyn nhw—rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i ffyrdd o ddathlu eich hunaniaeth eich hun ar Scratch, a chaniatáu i eraill wneud yr un peth. Nid yw byth yn iawn i ymosod ar hunaniaeth person neu grŵp neu i fod yn gas wrth rywun am eu cefndir neu ddiddordebau.",
|
||
"guidelines.privacyheader": "Byddwch yn ddiogel: cadwch wybodaeth bersonol a gwybodaeth gyswllt yn breifat.",
|
||
"guidelines.privacybody1": "Am resymau diogelwch, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth y mae modd ei defnyddio ar gyfer cyfathrebu preifat, wyneb yn wyneb neu ar-lein.",
|
||
"guidelines.privacybody2": "Mae hyn yn cynnwys peidio â rhannu enwau olaf go iawn, rhifau ffôn, cyfeiriadau, trefi enedigol, enwau ysgolion, cyfeiriadau e-bost, enwau defnyddwyr neu ddolenni i wefannau cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni sgwrsio fideo, neu wefannau a nodweddion sgwrsio preifat.",
|
||
"guidelines.helpfulheader": "Rhowch adborth defnyddiol.",
|
||
"guidelines.helpfulbody1": "Mae pawb ar Scratch yn dysgu.",
|
||
"guidelines.helpfulbody2": "Wrth wneud sylwadau ar broject, cofiwch ddweud rhywbeth rydych yn ei hoffi amdano, cynigiwch awgrymiadau, a byddwch yn garedig, nid yn feirniadol. Cofiwch gadw sylwadau'n barchus ac osgoi sbamio neu bostio post cadwyn. Rydym yn eich annog i roi cynnig ar bethau newydd, arbrofi, a dysgu gan eraill.",
|
||
"guidelines.remixheader": "Cofleidio diwylliant ailgymysgu.",
|
||
"guidelines.remixbody1": "Ailgymysgu yw pan fyddwch chi'n adeiladu ar brojectau, cod, syniadau, delweddau, neu unrhyw beth arall y maen nhw'n ei rannu ar Scratch i wneud eich creadigaeth unigryw eich hun.",
|
||
"guidelines.remixbody2": "Mae ailgymysgu yn ffordd wych o gydweithio a chysylltu â Scratchwyr eraill. Rydym yn eich annog i ddefnyddio unrhyw beth rydych yn ei ddarganfod ar Scratch yn eich creadigaethau eich hun, cyn belled â'ch bod yn cydnabod pawb y gwnaethoch ddefnyddio eu gwaith a gwneud newid ystyrlon iddo. A phan fyddwch chi'n rhannu rhywbeth ar Scratch, rydych chi'n rhoi caniatâd i'r holl Scratchwyr eraill ddefnyddio'ch gwaith yn eu creadigaethau nhw hefyd.",
|
||
"guidelines.honestyheader": "Byddwch yn onest.",
|
||
"guidelines.honestybody1": "Mae'n bwysig bod yn onest ac yn ddilys wrth ryngweithio ag eraill ar Scratch, a chofiwch fod yna berson y tu ôl i bob cyfrif Scratch.",
|
||
"guidelines.honestybody2": "Nid yw lledaenu sïon, dynwared Scratchers neu enwogion eraill, neu esgus bod yn ddifrifol wael yn barchus i Gymuned Scratch.",
|
||
"guidelines.friendlyheader": "Cynorthwywch i gadw'r wefan yn gyfeillgar.",
|
||
"guidelines.friendlybody1": "Mae’n bwysig cadw’ch creadigaethau a’ch sgyrsiau yn gyfeillgar ac yn briodol i bob oed.",
|
||
"guidelines.friendlybody2": "Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth ar Scratch yn gas, yn sarhaus, yn rhy dreisgar, neu'n amharu ar y gymuned fel arall, cliciwch ar “Adrodd” i roi gwybod i ni amdano. Defnyddiwch y botwm “Adrodd” yn hytrach nag ymladd, lledaenu sïon am ymddygiad pobl eraill, neu fel arall ymateb i unrhyw gynnwys amhriodol. Bydd Tîm Scratch yn edrych ar eich adroddiad ac yn cymryd y camau priodol.",
|
||
"guidelines.learnMoreheader": "Eisiau dysgu rhagor?",
|
||
"guidelines.learnMorebody1": "<a>Llwythwch y canllaw i lawr</a> am fwy o fanylion!",
|
||
"guidelines.learnMorebody2": "Darganfyddwch botensial di-ben-draw cymuned ar-lein Scratch gyda'n tywyswyr! Mae'r adnoddau gwerthfawr hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i lywio a ffynnu fel Scratcher, gan ddatgelu popeth o osod eich proffil i gysylltu ag unigolion o'r un anian. Dysgwch sut i gysylltu ag eraill, rhannu eich creadigaethau unigryw, a dod o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich project nesaf.",
|
||
"guidelines.respectButtonImageDescription": "Cylch glas",
|
||
"guidelines.privacyButtonImageDescription": "Cylch melyn",
|
||
"guidelines.helpfulButtonImageDescription": "Cylch magenta",
|
||
"guidelines.remixButtonImageDescription": "Cylch gwyrdd",
|
||
"guidelines.honestyButtonImageDescription": "Cylch porffor",
|
||
"guidelines.friendlyButtonImageDescription": "Cylch pinc",
|
||
"guidelines.respectSectionImageDescription": "Graffeg o ddwy law yn gafael yn ei gilydd mewn ysgwyd llaw, gyda chalon binc uwch eu pennau.",
|
||
"guidelines.privacySectionImageDescription": "Graffeg o glo clo cyfuniad glas ar gefndir melyn. Y tu mewn i'r clo mae siâp pen gyda marc cwestiwn wedi'i argraffu ar yr wyneb.",
|
||
"guidelines.helpfulSectionImageDescription": "Graffeg o ddarn o bapur ar ben cefndir pinc. Ar y papur, mae project Scratch gyda chath wen ar gefndir glas. Mae beiro binc gyda chalon ar y cap yn tynnu calon ac mae pensil yn ysgrifennu sylw.",
|
||
"guidelines.remixSectionImageDescription": "Graffeg o'r \"ailgymysgu\" Scratch chwyrlïo ar gefndir gwyrdd. Mae dwy law yn symud blociau Scratch oren, glas a phorffor o gwmpas. Mae brwsh paent yn paentio strecen gwyrdd.",
|
||
"guidelines.honestySectionImageDescription": "Graffeg o gwmpawd glas golau ar gefndir porffor. Mae calon binc ar safle \"Gogledd\".",
|
||
"guidelines.friendlySectionImageDescription": "Graffeg o 5 llaw gyda gwahanol arlliwiau croen gan ddefnyddio eu pwyntydd a bysedd canol i greu seren ar gefndir pinc gyda seren binc a seren felen yn y canol.",
|
||
"guidelines.learnMoreSectionImageDescription": "Graffeg o focs gyda saeth werdd yn pwyntio tu mewn iddo gyda sêr yn y cefndir."
|
||
} |