scratch-l10n/www/scratch-website.annual-report-2020-l10njson/cy.json
2021-11-04 03:14:48 +00:00

306 lines
No EOL
42 KiB
JSON
Raw Blame History

This file contains ambiguous Unicode characters

This file contains Unicode characters that might be confused with other characters. If you think that this is intentional, you can safely ignore this warning. Use the Escape button to reveal them.

{
"annualReport.2020.subnavFoundersMessage": "Neges y Sylfaenydd",
"annualReport.2020.subnavMission": "Cenhadaeth",
"annualReport.2020.subnavReach": "Ymestyn",
"annualReport.2020.subnavThemes": "Themâu",
"annualReport.2020.subnavDirectorsMessage": "Neges y Cyfarwyddwr",
"annualReport.2020.subnavSupporters": "Cefnogwyr",
"annualReport.2020.subnavTeam": "Tîm",
"annualReport.2020.subnavDonate": "Rhoi",
"annualReport.2020.mastheadYear": "Adroddiad Blynyddol 2020",
"annualReport.2020.mastheadTitle": "Addasu i Fyd sy'n Newid",
"annualReport.2020.foundersMessageTitle": "Neges gan Ein Sylfaenydd",
"annualReport.2020.foundersMessageP1": "Bydd y flwyddyn 2020 yn cael ei chofio fel y flwyddyn pan ysgubodd pandemig COVID ar draws y byd, gan achosi caledi ac aflonyddwch ym mywydau pawb - gydar caledi mwyaf yn cwympon annheg ar y rhai sydd eisoes yn wynebu heriau yn eu bywydau.",
"annualReport.2020.foundersMessageP2": "Trwy gydol y pandemig, mae pobl ifanc ledled y byd, llawer ohonyn nhw wedi'u hynysu yn eu cartrefi, wedi dod i wefan Scratch mewn niferoedd mwy nag erioed o'r blaen, gan weld Scratch fel man diogel lle gallan nhw fynegi eu hunain yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chydweithio a'i gilydd. Cawsom ein hysbrydoli gan gynifer or projectau Scratch a greodd pobl ifanc yn ystod 2020, llawer ohonynt yn rhannu eu meddyliau au teimladau am y pandemig, newid yn yr hinsawdd, anghyfiawnder hiliol, a materion eraill ar eu meddyliau. Nid dysgu cysyniadau a sgiliau cyfrifiadurol yn unig yr oedd pobl ifanc, ond hefyd yn datblygu eu llais a'u hunaniaethau.",
"annualReport.2020.foundersMessageP3": "Er mwyn sicrhau y gall Scratch barhau i chwarae'r rôl bwysig hon ym mywydau pobl ifanc yn y blynyddoedd i ddod, rydym wedi bod yn gwneud newidiadau sefydliadol sylweddol yn Scratch. Ar ddechrau 2020, symudodd y Tîm Scratch allan o'i gartref hir dymor yn MIT Media Lab ac i swyddfeydd newydd Scratch Foundation yn downtown Boston. Bydd y cam hwn yn ein helpu i adeiladu sefydliad cynaliadwy a all gefnogi Scratch fel platfform codio creadigol byd-eang i'r dyfodol.",
"annualReport.2020.foundersMessageP4": "Yn ddiweddarach yn 2020, fel rhan o'r trawsnewid sefydliadol hwn, gwnaethom gyflogi Shawna Young i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol y Scratch Foundation. Daw Shawna i'r Scratch Foundation gyda chefndir cryf mewn addysg a rheoli dim-er-elw, ac ymrwymiad dwfn i degwch a chynhwysiant. Trwy gydol ei gyrfa mewn sefydliadau fel Duke a MIT, mae Shawna wedi gweithio i ehangu profiadau dysgu i fyfyrwyr o gymunedau amrywiol. Maer ymrwymiad hwnnw wedii alinion gryf â chenhadaeth a gwerthoedd Scratch, a bydd yn chwarae rhan bwysig yn ei harweinyddiaeth yn Scratch. Rwyn eich annog i ddarllen neges Shawna ar ddiwedd yr adroddiad blynyddol hwn.",
"annualReport.2020.foundersMessageP5": "Dros y degawd diwethaf, mae Scratch wedi cael llwyddiant rhyfeddol, gan ennyn diddordeb degau o filiynau o bobl ifanc ledled y byd. Ond dim ond dechrau ydyn ni. Yr her ar gyfer y blynyddoedd i ddod yw sicrhau y gallwn barhau i ledaenu a chefnogi nid yn unig ein technoleg ond hefyd ein dull creadigol, gofalgar, dysgu cydweithredol, fel bod pobl ifanc ledled y byd yn cael cyfleoedd teg i ddychmygu, creu, rhannu a dysgu. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phob un ohonoch i wneud i hynny ddigwydd!",
"annualReport.2020.foundersMessageScratchTitle": "Cadeirydd, y Scratch Foundation",
"annualReport.2020.foundersMessageAffiliation": "Athro, MIT Media Lab",
"annualReport.2020.watchVideo": "Gwyliwch y Fideo",
"annualReport.2020.missionTitle": "Ein Cenhadaeth a'n Gweledigaeth",
"annualReport.2020.visionHeader": "Gweledigaeth",
"annualReport.2020.visionSubtitle": "Lledaenu dulliau creadigol, gofalgar, cydweithredol a theg o godio a dysgu ledled y byd.",
"annualReport.2020.missionHeader": "Cenhadaeth",
"annualReport.2020.missionSubtitle": "Rhoi offer digidol a chyfleoedd i bobl ifanc ddychmygu, creu, rhannu a dysgu.",
"annualReport.2020.missionP1": "Rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder addysgol a blaenoriaethu tegwch ar draws pob agwedd ar ein gwaith, gyda ffocws penodol ar fentrau a dulliau sy'n cefnogi plant, teuluoedd ac addysgwyr sydd wedi'u heithrio o gyfrifiadura creadigol.",
"annualReport.2020.missionP2": "Rydyn ni wedi datblygu Scratch fel amgylchedd dysgu rhad ac am ddim, diogel, chwareus sy'n ennyn diddordeb pob plentyn i feddwl yn greadigol, rhesymu yn systematig, a chydweithio - sgiliau hanfodol i bawb yn y gymdeithas heddiw. Rydym yn gweithio gydag addysgwyr a theuluoedd i gynorthwyo plant i archwilio, rhannu a dysgu.",
"annualReport.2020.missionP3": "Wrth ddatblygu technolegau, gweithgareddau a deunyddiau dysgu newydd, fen harweinir gan yr hyn a alwn yn Bedwar P o Ddysgu Creadigol:",
"annualReport.2020.fourPs": "Pedwar Pwynt Addysgu Creadigol",
"annualReport.2020.missionProjectsTitle": "Projectau",
"annualReport.2020.missionPeersTitle": "Cyfoedion",
"annualReport.2020.missionPassionTitle": "Angerdd",
"annualReport.2020.missionPlayTitle": "Chwarae",
"annualReport.2020.missionProjectsDescription": "Ymgysylltu plant â dylunio, creu a mynegi eu hunain yn greadigol",
"annualReport.2020.missionPeersDescription": "Cefnogi plant i gydweithio, rhannu, ailgymysgu a mentora",
"annualReport.2020.missionPassionDescription": "Galluogi plant i adeiladu ar eu diddordebau a gweithio ar brojectau sy'n ystyrlon iddyn nhw",
"annualReport.2020.missionPlayDescription": "Annog plant i dincro, arbrofi ac ailadrodd",
"annualReport.2020.reachTitle": "Cyrraedd Plant o Amgylch y Byd",
"annualReport.2020.reachSubtitle": "Scratch yw cymuned godio fwyaf y byd ar gyfer plant a phobl ifanc, 8 oed a hŷn.",
"annualReport.2020.reachMillion": "miliwn",
"annualReport.2020.reachNewUsersNumber": "15 {million}",
"annualReport.2020.reachNewUsersIncrease": "3.8 % ers 2019",
"annualReport.2020.reachProjectsCreatedNumber": "80 {million}",
"annualReport.2020.reachProjectsCreatedIncrease": "37 % ers 2019",
"annualReport.2020.reachProjectCreatorsNumber": "29 {million}",
"annualReport.2020.reachProjectCreatorsIncrease": "44 % ers 2019",
"annualReport.2020.reachIncreaseInCommentsNumber": "217%",
"annualReport.2020.reachIncreaseInCommentsOld": "48 {million}",
"annualReport.2020.reachIncreaseInCommentsIncrease": "150 {million}",
"annualReport.2020.reachNewUsers": "Defnyddwyr Newydd",
"annualReport.2020.reachProjectsCreated": "Prosiectau wedi'u Creu",
"annualReport.2020.reachProjectCreators": "Pobl yn Creu Projectau",
"annualReport.2020.reachComments": "cynnydd yn y sylwadau a wnaed ers 2019",
"annualReport.2020.reachGlobalCommunity": "Ein Cymuned Fyd-eang",
"annualReport.2020.reachMapBlurb": "Cyfanswm y cyfrifon a gofrestrwyd yng Nghymuned Ar-lein Scratch ers cychwyn Scratch hyd at fis Rhagfyr 2020",
"annualReport.2020.reachMap24M": "24M",
"annualReport.2020.reachMapLog": "ar raddfa logarithmig",
"annualReport.2020.reachTranslationTitle": "Mae Scratch yn cael ei Gyfieithu i 64 Iaith",
"annualReport.2020.reachTranslationIncrease": "3 iaith ers 2019",
"annualReport.2020.reachTranslationBlurb": "Diolch i gyfieithwyr gwirfoddol o bob cwr o'r byd.",
"annualReport.2020.reachScratchJrBlurb": "Mae ScratchJr yn amgylchedd rhaglennu rhagarweiniol sy'n galluogi plant ifanc (5-7 oed) i greu eu straeon a'u gemau rhyngweithiol eu hunain.",
"annualReport.2020.reachDownloadsMillion": "3 {million}",
"annualReport.2020.reachDownloads": "Llwythiadau i lawr yn 2020",
"annualReport.2020.reachDownloadsIncrease": "2 {million} o 2019",
"annualReport.2020.themesTitle": "Themâu sy'n Dod i'r Amlwg",
"annualReport.2020.themesDescription": "Wrth i bobl ifanc wynebu heriau digynsail COVID-19, daeth Scratch yn lle pwysicach nag erioed iddyn nhw gysylltu, creu a mynegi eu hunain. Trwy gydol y flwyddyn, roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar dri maes i gefnogi ein cymuned fyd-eang sy'n tyfu orau: cysylltedd, addasu a chymuned. Fel bob amser, roedd ein hymdrechion wedi'u seilio ar ein hymrwymiad i degwch a chynhwysiant.",
"annualReport.2020.equity": "Ecwiti",
"annualReport.2020.globalStrategy": "Strategaeth Fyd-eang",
"annualReport.2020.connectivityTitle": "Cysylltedd",
"annualReport.2020.connectivityIntro": "Tra bod pobl ifanc wedi'u hynysu y tu mewn i'w cartrefi oherwydd COVID-19, cynigiodd Scratch gyfle iddyn nhw gysylltu a chreu gyda ffrindiau pell, cyd-ddisgyblion ac aelodau o'u teulu. Roedd hefyd yn borth i'r byd y tu allan, lle gwnaethon nhw ddarganfod bod miliynau o blant ar draws gwledydd a chyfandiroedd yn profi'r un pethau ag yr oedden nhw.",
"annualReport.2020.aaronText": "Cydweithiodd myfyrwyr Aaron i adeiladu fersiwn “rhyfedd” ou tref or enw “Norwouldnt,” yn llawn creaduriaid llyfrau straeon, gwaith celf gwreiddiol, a naratifau rhyng-gysylltiedig. Roedd yn un o lawer o brojectau Scratch cydweithredol a hwylusodd Aaron i atgoffa myfyrwyr, er bod COVID-19 yn eu cadw y tu mewn i'w cartrefi, eu bod yn dal i fod yn rhan o gymuned ofalgar a llawen.",
"annualReport.2020.spotlightStory": "Amlygu Stori",
"annualReport.2020.connectivityIndia": "Scratch yn India",
"annualReport.2020.connectivityIndiaIntro": "Yn India, roedd y pandemig COVID-19 yn ergyd enfawr gan gadw llawer o bobl ifanc a'u teuluoedd wedi'u hynysu y tu mewn am rannau hir.",
"annualReport.2020.connectivityIndiaParagraph": "Ar draws y gymuned Scratch fyd-eang gyfan, gwelsom gynnydd enfawr mewn gweithgaredd yn dechrau ym mis Mawrth 2020. Nid oedd y cynnydd sydyn hwn yn fwy amlwg yn unlle nag yn India, lle bu pandemig COVID-19 yn ergyd enfawr a chadw llawer o bobl ifanc a theuluoedd ar wahân am gyfnodau maith. Trwy Scratch, daeth plant yn India o hyd i gysylltiadau trwy greu a rhannu 602% yn fwy o brojectau na'r flwyddyn flaenorol.",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsNumber": "2.3 {million}",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsSubhead": "Crëwyd Projectau Ar-lein yn 2020",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsIncreasePercent": "602 % ers 2019",
"annualReport.2020.connectivityRegistedUsers": "Mae nifer y defnyddwyr cofrestredig yn yr India wedi mwy na dyblu mewn blwyddyn,",
"annualReport.2020.connectivityRegistedUsersNumbers": "gan godi o dros 300,000 yn 2019 i dros 700,000 yn 2020.",
"annualReport.2020.connectivityIndiaUsers": "Cynyddodd nifer yr ymwelwyr unigryw",
"annualReport.2020.connectivityIndiaUsersPercent": "156%",
"annualReport.2020.connectivityIndiaUsersOld": "1.8 {million}",
"annualReport.2020.connectivityIndiaUsersNew": "4.6 {million}",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjects": "Cynyddodd nifer y bobl sy'n creu projectau",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsPercent": "270%",
"annualReport.2020.connectivityIndiaYear": "yn 2020",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsOld": "303 mil",
"annualReport.2020.connectivityIndiaProjectsNew": "1.1 {million}",
"annualReport.2020.connectivityWorld": "Scratch o amgylch y byd",
"annualReport.2020.connectivityWorldSubtitle": "Cydweithredwyr Rhyngwladol",
"annualReport.2020.connectivityCountryChileTitle": "Scratch Al Sur",
"annualReport.2020.connectivityCountryChile": "Chile",
"annualReport.2020.connectivityCountryChileParagraph": "Mae Scratch Al Sur yn ymroddedig i gefnogi meddwl yn gyfrifyddol a chreadigol ymhlith myfyrwyr ac addysgwyr yn Chile ac ar draws America Ladin. Fe wnaethon nhw gynorthwyo ein hymdrechion cyfieithu a lleoleiddio i Rapa Nui a'r Sbaeneg, ac maen nhw wedi cynnwys llawer o addysgwyr mewn gweithdai datblygiad proffesiynol cydweithredol, chwareus Scratch.",
"annualReport.2020.connectivityCountryBrazilTitle": "Rhwydwaith Dysgu Creadigol Brasil",
"annualReport.2020.connectivityCountryBrazil": "Brasil",
"annualReport.2020.connectivityCountryBrazilParagraph": "Mae Rhwydwaith Dysgu Creadigol Brasil yn fudiad llawr gwlad sy'n gweithredu arferion addysgol ymarferol chwareus, creadigol a pherthnasol ledled Brasil. Yn 2020, bu i'r Tîm Scratch gynnig cyflwyniad yn nigwyddiad Wythnos Dysgu Creadigol Rhwydwaith Dysgu Creadigol Brasil i rannu sut roedd plant yn defnyddio Scratch i adeiladu cymuned, mynegi eu hunain, a siarad am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Yn ei dro, fe wnaethon ni ddysgu sut roedd addysgwyr yn y rhwydwaith yn creu cyfleoedd ar gyfer hunanfynegiant gyda dysgwyr yn eu cymunedau eu hunain.",
"annualReport.2020.connectivityCountryIndiaTitle": "Cynghrair Quest",
"annualReport.2020.connectivityCountryIndia": "India",
"annualReport.2020.connectivityCountryIndiaParagraph": "Mae Quest Alliance yn grymuso miliynau o ddysgwyr ac addysgwyr sydd â sgiliau'r 21ain ganrif, gan gynnwys cyfrifiadura creadigol. Yn 2020, rhannodd {QuestAllianceLink} Scratch i ddysgwyr ac addysgwyr ledled India.",
"annualReport.2020.connectivityCountryUSATitle": "Raspberry Pi",
"annualReport.2020.connectivityCountryUSA": "UDA",
"annualReport.2020.connectivityCountryUSAParagraph": "Mae Raspberry Pi yn gweithio i roi pŵer cyfrifiadura a chreu digidol yn nwylo pobl ledled y byd. Trwy eu menter Making at Home, maen nhw'n arwain digwyddiadau llif byw a oedd yn annog teuluoedd a phobl ifanc i ddysgu a chreu gyda'i gilydd. Roedd nifer o'r llifau byw hyn yn cynnwys sesiynau tiwtorial Scratch - ac weithiau, hyd yn oed {USALink}!",
"annualReport.2020.connectivityResources": "Adnoddau",
"annualReport.2020.connectivityResourcesSubtitle": "Lleoleiddio gyda Chefnogaeth gan Sefydliad LEGO",
"annualReport.2020.connectivityResourcesParagraph": "Er mwyn cefnogi ein cyrhaeddiad byd-eang disglair a chynorthwyo ein hymateb COVID-19, cefnogodd y LEGO Foundation Scratch gyda grant hael. Gyda'r cyllid hwn, roeddem yn gallu lleoleiddio adnoddau allweddol a chyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ifanc ledled y byd.",
"annualReport.2020.connectivityExample1Title": "Delweddau Tiwtorial",
"annualReport.2020.connectivityExample1Paragraph": "Fe wnaethon ni greu cyfieithiadau o'r delweddau ar gyfer 25 o diwtorialau Scratch mewn 12 iaith - cyfanswm o dros 1,000 o ddelweddau newydd!",
"annualReport.2020.connectivityExample2Title": "Getting Started with Scratch",
"annualReport.2020.connectivityExample2Paragraph": "Y fideo Getting Started with Scratch yw'r fideo tiwtorial Scratch mwyaf poblogaidd, sy'n cyfarch Scratchwyr newydd pan fyddan nhw'n ymuno â'r wefan gyntaf. Roeddem yn gallu cyfieithu'r fideo hon i 25 o ieithoedd newydd ac i ddiweddaru'r 3 chyfieithiad blaenorol, gan gynnwys delweddau, trosleisio, ac is-deitlau.",
"annualReport.2020.connectivityExample3Title": "Golygydd Scratch",
"annualReport.2020.connectivityExample3Paragraph": "Golygydd project Scratch yw'r adnodd Scratch mwyaf hanfodol. Buom yn gweithio gyda chwmni cyfieithu o Dde Affrica sy'n arbenigo mewn cyfieithu addysgol perthnasol yn ddiwylliannol i gyfieithu ac adolygu golygydd Scratch mewn pum iaith yn Ne Affrica: isiZulu, isiXhosa, Affricaneg, Sestwana, a Sepedi.",
"annualReport.2020.adaptationTitle": "Addasu",
"annualReport.2020.adaptationIntro": "Wrth i COVID-19 orfodi ysgolion i gau a gwthio dysgu i rith-ofod, roedd llawer o fyfyrwyr ac athrawon yn darganfod Scratch am y tro cyntaf neu'n addasu'r ffordd roedden nhw'n addysgu ac yn dysgu codio creadigol. O'n cartrefi ein hunain, gweithiodd y Tîm Scratch i gefnogi anghenion newidiol addysgwyr a'r gymuned ar-lein.",
"annualReport.2020.adaptationQuoteName": "Benedikt Hochwartner",
"annualReport.2020.adaptationQuoteTitle": "Curadur Dysgu Creadigol, mumok, Fienna, Awstria",
"annualReport.2020.adaptationQuoteText": "Yn yr holl drafferthion dros y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd Scratch yn llwyfan cyfathrebu, ein lle i gwrdd, a'n cyfrwng i fynegi ein hunain yn greadigol.",
"annualReport.2020.adaptationHighlightName": "Aaron Reuland",
"annualReport.2020.adaptationHighlightTitle": "Athro Cyfryngau Llyfrgell K-5, Norwood, MA",
"annualReport.2020.adaptationHighlightText": "Yn ysgol Title One Aaron Reuland yn Norwood, Massachusetts, roedd yn dibynnu ar Scratch i helpu i ennyn diddordeb myfyrwyr anghysbell mewn dysgu creadigol ac ailgynnau eu hymdeimlad o gymuned “pan mair unig bethau y gallwn i ddibynnu arnom ni i gyd oedd cyfrifiadur gweithredol a chysylltiad rhyngrwyd. ”",
"annualReport.2020.adaptationHighlightText2": "Cydweithiodd myfyrwyr Aaron i adeiladu fersiwn “rhyfedd” ou tref or enw “Norwouldnt,” yn llawn creaduriaid llyfrau straeon, gwaith celf gwreiddiol, a naratifau rhyng-gysylltiedig. Roedd yn un o lawer o brojectau Scratch cydweithredol a hwylusodd Aaron i atgoffa myfyrwyr, er bod COVID-19 yn eu cadw y tu mewn i'w cartrefi, eu bod yn dal i fod yn rhan o gymuned ofalgar a llawen.",
"annualReport.2020.adaptationHighlightTitle2": "Scratch yn y Cartref",
"annualReport.2020.adaptationHighlightText2b": "Ar Fawrth 17, fe wnaethom ymateb i argyfwng COVID-19 trwy gychwyn y {linkText} i roi syniadau i blant, teuluoedd ac addysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu creadigol gyda Scratch gartref. Roedd yn ffordd amhrisiadwy o gysylltu â'n cymuned ac i addasu i ffordd hollol newydd o ddysgu a rhyngweithio ar-lein.",
"annualReport.2020.adaptationHighlightTitle3": "Creu'n Fyw - Create-Along",
"annualReport.2020.adaptationHighlightText3b": "Roedd ein tîm yn cynnal gweithgareddau {linkText} wythnosol, byw i gysylltu â phlant, rhieni, ac addysgwyr gartref a rhannu awgrymiadau a thriciau ar gyfer creu gwahanol fathau o brojectau Scratch. Cawsom lot o hwyl yn gweld y projectau cafodd eu hysbrydoli i'w creu yn ein stiwdios Create-Along!",
"annualReport.2020.adaptationHighlightTitle4": "Hack Your Window",
"annualReport.2020.adaptationHighlightText4b": "Creodd yr addysgwr Scratch Eduard Muntaner Perich stiwdio a ysbrydolwyd gan # ScratchAtHome fu'n boblogaidd iawn: {linkText}. Dychmygodd cannoedd o Scratchwyr o bob cwr o'r byd gemau a straeon rhyfeddol yn digwydd ychydig y tu allan i'w ffenestr.",
"annualReport.2020.adaptationEducatorsTitle": "Cysylltu ag Addysgwyr",
"annualReport.2020.adaptationEducatorsText": "Rhannodd addysgwyr ledled y byd eu syniadau #ScratchAtHome eu hunain a thrafod brwydrau a buddugoliaethau dysgu o bell mewn Sgwrs Twitter fywiog ar Ebrill 8fed, 2020.",
"annualReport.2020.adaptationSnapshot": "Cipluniau",
"annualReport.2020.adaptationSnapshot1Title": "Gweithdai Rhithwir y Computer Clubhouse Network",
"annualReport.2020.adaptationSnapshot1Text": "Fel rhan o'n partneriaeth hirhoedlog, mae'r Tîm Scratch yn cynnal gweithdai ar gyfer addysgwyr ieuenctid o {linkText}. Fel addysgwyr ledled y byd, roedd yn rhaid i'n tîm gynnal gweithdai ar-lein am y tro cyntaf yn 2020 - a dysgu sut i frwydro yn erbyn unigedd ac anawsterau technegol dysgu rhithwir. Ond diolch i offer cydweithredu ar-lein a dulliau arloesol o rannu a myfyrio, llwyddodd y tîm i ail-greu ysbryd cydweithredol, chwareus gweithdai personol mewn gofod rhithwir.",
"annualReport.2020.adaptationSnapshot2Title": "Dewch â'ch Hun i Mewn i Scratch",
"annualReport.2020.adaptationSnapshot2Text": "Roedd 2020 hefyd yn flwyddyn o addasu ein hoffer a'n platfform. Fe wnaethom ddatblygu ac ychwanegu corluniau newydd i'r Llyfrgell Corluniau i ysbrydoli a galluogi Scratchwyr cychwynnol i wneud projectau'n gynrychioliadol o'u hunaniaeth hiliol, ddiwylliannol, rhyw neu bersonol.",
"annualReport.2020.communityTitle": "Cymuned",
"annualReport.2020.communityIntro": "Yn 2020, daeth Cymuned Scratch yn lle hyd yn oed yn fwy hanfodol i bobl ifanc ddod o hyd i ymdeimlad o undod a pherthyn. Wrth i ni weld y sgyrsiau ystyrlon, projectau cydweithredol, a straeon teimladwy Scratchwyr yn cael eu rhannu, roeddem ni mewn parch i'w hysbryd creadigol a gwydn.",
"annualReport.2020.communityTitle1": "Canllaw Nosweithiau Codio Creadigol Rhithwir",
"annualReport.2020.communityText1": "Yn 2019, gyda chefnogaeth Google.org, bur Tîm Scratch yn gweithio gyda'r Chicago Public Schools Office of Computer Science i gysylltu myfyrwyr, teuluoedd, athrawon, ac aelodau eraill or gymuned trwy Nosweithiau Codio Creadigol Teulu.",
"annualReport.2020.communityText2": "Eleni, roedd ein timaun wynebu her newydd: sut y gallem ddod ag ysbryd chwareus, adeiladu cymunedol Nosweithiau Codio Creadigol Teulu i ofod rhithwir, gan helpu ysgolion i ddatblygu cysylltiadau hanfodol â myfyrwyr anghysbell au teuluoedd? Gwnaethom ddatblygu canllaw Nosweithiau Codio Rhithwir i ddarparu strwythur ar gyfer y cysylltiadau hyn a chefnogi dysgu llawen",
"annualReport.2020.communityDownloadButton": "Canllaw Nosweithiau Codio Rhithwir",
"annualReport.2020.communityQuoteName": "Kendra Mallory, M.Ed.",
"annualReport.2020.communityQuoteTitle": "Cydlynydd S.T.E.M. Ruggles Elementary",
"annualReport.2020.communityQuoteText": "[Yn 2020], nid oedd llawer o gyfleoedd i ymgysylltu â rhieni mewn ffordd mor hwyliog a llawn egni. Felly darparodd y cyfle hwn ymgysylltiad angenrheidiol iawn... Roedd athrawon yn bryderus, ond roedd lefel cyffro'r myfyrwyr yn eu gwthio i ofod lle roedd yn rhaid iddyn nhw ymddiried yn y broses a chaniatáu i blant ddysgu oddi wrth ei gilydd.",
"annualReport.2020.communityScratchCommunity": "Cymuned Scratch",
"annualReport.2020.communityScratchCommunityIntro": "Pan mae rhywun yn gofyn iddyn nhw pam eu bod yn defnyddio Scratch, mae'r rhan fwyaf o Scratchers yn sôn am bwysigrwydd y gymuned ar-lein ar gyfer ysgogi eu cyfranogiad parhaus, gan ddarparu gofod lle gallan nhw fynegi eu creadigrwydd, gwneud ffrindiau, derbyn adborth, cael syniadau newydd, a dysgu sgiliau newydd. Mae llawer o Scratchers yn mynegi eu gwerthfawrogiad o'r gymuned Scratch fel gofod diogel a chroesawgar i gysylltu, rhannu a dysgu oddi wrth ei gilydd.",
"annualReport.2020.communityQuoteGroupText1": "Fe wnes i ymuno â Scratch pan oeddwn yn 11 oed ac roedd y pethau a ddysgais o ddefnyddio'r platfform a rhyngweithio â'r gymuned yn rhan hanfodol o'm dysgu wrth dyfu i fyny.",
"annualReport.2020.communityQuoteGroupText2": "Mae Scratch wedi caniatáu imi wneud pethau o gartref, fel\n- Parchu pobl a'u projectau\n- Gwneud ffrindiau\n- Teimlo nad ydw i ar fy mhen fy hun yn y cwarantîn hwn\n.... a llawer mwy, felly rydw i eisiau dweud ¡GRACIAS!",
"annualReport.2020.communityQuoteGroupText3": "Rydw i wedi bod ar Scratch ers tua 2 flynedd, ac mae wedi bod yn brofiad sy'n newid bywyd! Rydw i wedi dysgu cymaint o bethau newydd, fel codio, moesau ar-lein, a chelf!",
"annualReport.2020.communityQuoteGroupText4": "Scratch oedd fy hoff hobi yn y chweched radd. Fe gyflwynodd fi yn gyfrinachol i resymeg Boole, trefn gweithrediadau, ac ymadroddion mathemategol nythu—heb sôn am raglennu cyfrifiadurol ei hun.",
"annualReport.2020.yearInReview": "Adolygiad Blwyddyn",
"annualReport.2020.yearInReviewText": "Roedd 2020 yn flwyddyn ryfeddol yn y gymuned ar-lein. Amlygodd a datblygodd y Tîm Cymunedol gyfleoedd i bobl ifanc fynegi eu syniadau a chymryd rhan mewn ffyrdd cadarnhaol, a daeth symudiadau anhygoel o Scratchwyr eu hunain. Dyma edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn:",
"annualReport.2020.yearInReviewCard1Date": "Ionawr",
"annualReport.2020.yearInReviewCard1Title": "Stiwdio Dylunio Scratch Diwedd y Ddegawd",
"annualReport.2020.yearInReviewCard1Text": "Dathlodd Scratchwyr ddiwedd degawd a dechreuadau newydd yn y Stiwdio Ddylunio Scratch hon.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard2Date": "Ebrill",
"annualReport.2020.yearInReviewCard2Title": "Diwrnod Ffŵl Ebrill",
"annualReport.2020.yearInReviewCard2Text": "Ymddangosodd “dirgelion cyffredin” o amgylch y wefan, ac roedd Cat Blocks yn synnu a rhyfeddu'r gymuned Scratch.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard3Date": "Ebrill",
"annualReport.2020.yearInReviewCard3Title": "Creu-Alongs",
"annualReport.2020.yearInReviewCard3Text": "Dechreuodd aelodau Tîm Scratch gynnal sesiynau tiwtorial byw i gysylltu a chreu gyda Scratchwyr a'u teuluoedd gartref.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard4Date": "Mai",
"annualReport.2020.yearInReviewCard4Title": "Mis Scratch",
"annualReport.2020.yearInReviewCard4Text": "Rhannodd Scratchwyr ledled y byd filoedd o brojectau o amgylch themâu wythnosol, o grefftau wedi'u hailgylchu i jingles golchi dwylo.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard5Date": "Mai",
"annualReport.2020.yearInReviewCard5Title": "Mae Bywydau Du o Bwys",
"annualReport.2020.yearInReviewCard5Text": "Wrth i brotestiadau cyfiawnder hiliol ysgubor UD, daeth y gymuned ynghyd i gefnogi ei gilydd a galw am newid.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard6Date": "Mehefin",
"annualReport.2020.yearInReviewCard6Title": "Hwyl Gartref! Stiwdio Dylunio Scratch",
"annualReport.2020.yearInReviewCard6Text": "Rhannodd Scratchwyr eu hoff gemau a gweithgareddau dan do er mwyn cadw i ymgysylltu wrth aros adref.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard7Date": "Mehefin",
"annualReport.2020.yearInReviewCard7Title": "Stiwdio Juneteenth",
"annualReport.2020.yearInReviewCard7Text": "Creodd Scratchwyr brojectau i anrhydeddu Juneteenth a'r frwydr barhaus dros gyfiawnder hiliol.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard8Date": "Gorffennaf",
"annualReport.2020.yearInReviewCard8Title": "Gwersyll Scratch",
"annualReport.2020.yearInReviewCard8Text": "Parodd Scratch the Musical i'r gymuned gyfan actio, canu a dawnsio gyda'i gilydd.",
"annualReport.2020.yearInReviewCard9Date": "Hydref",
"annualReport.2020.yearInReviewCard9Title": "Scratchtober",
"annualReport.2020.yearInReviewCard9Text": "Creodd Scratchwyr gannoedd o straeon creadigol, gemau ac animeiddiadau yn seiliedig ar awgrymiadau ar thema ddyddiol.",
"annualReport.2020.communityQuote2Name": "Anna Lytical, Cyn-fyfyrwyr Scratch",
"annualReport.2020.communityQuote2Title": "Peiriannydd Cysylltiadau Datblygwr Platfform Google Cloud, a'r Coding Drag Queen",
"annualReport.2020.communityQuote2Text": "Mae gweld y pŵer sydd gennych chi wrth greu rhywbeth a gallu cynrychioli'ch hun a'ch problemau a'u mynegi neu eu datrys â chod yn brofiad hudolus iawn ac yn cael effaith go iawn.",
"annualReport.2020.communitySnapshotTitle": "Gwella Ein Offer",
"annualReport.2020.communitySnapshotText": "Mae ein Tîm Cymunedol yn defnyddio amrywiaeth eang o offer a strategaethau i annog dinasyddiaeth ddigidol dda a chynnal amgylchedd cadarnhaol i Scratchwyr ei greu. Yn 2020, fe wnaethom ddatblygu rhyngwyneb newydd, mwy greddfol i helpu Scratchwyr i dynnu sylw at gynnwys amhriodol, a gwella'r offer a ddefnyddir gan ein tîm cymedroli cymunedol. O ganlyniad, cawsom adroddiadau o ansawdd uwch gan y gymuned, ac roedd ein cymedrolwyr cymunedol yn gallu gweithio'n gyflymach ac yn fwy effeithlon - gan gadw'r wefan yn fwy diogel a chyfeillgar i bawb.",
"annualReport.2020.communitySnapshot2Title": "Tiwtorialau Scratch Newydd ar YouTube",
"annualReport.2020.communitySnapshot2Text": "Dechreuodd y Tîm Scratch rannu sesiynau tiwtorial ar ein sianel YouTube ym mis Mawrth 2020 i helpu Scratchwyr i ennill y sgiliau i greu beth bynnag y gallan nhw ei ddychmygu. O gelf picsel i anifeiliaid anwes rhithwir, mae'r tiwtorialau hyn yn boblogaidd iawn gyda Scratchwyr o bob oed, gan gael 1.3 miliwn o olygon yn 2020.",
"annualReport.2020.tutorial1": "Rhith-dref",
"annualReport.2020.tutorial2": "Gêm Dal",
"annualReport.2020.tutorial3": "Dylunydd Cymeriadau",
"annualReport.2020.tutorial4": "Rhith Anifail Anwes",
"annualReport.2020.EDMessageTitle": "Neges gan Ein Cyfarwyddwr Gweithredol",
"annualReport.2020.EDMessageText1": "Roedd 2020 yn flwyddyn drawsnewidiol ledled y byd, ac i Scratch. Ymunais â'r tîm ym mis Tachwedd, pan oeddem fisoedd i mewn i bandemig COVID-19. Gyda fy nghefndir fel arweinydd addysgol, roeddwn yn gyffrous am botensial arwain Scratch trwy gyfnod o newid sylweddol a pharhau i weithio tuag at fy nod personol o helpu myfyrwyr o bob cefndir i gyrraedd uchelfannau newydd. Roeddwn i'n gwybod bod pobl ifanc ym mhobman angen mwy fyth o gefnogaeth i'w helpu i gyflawni eu potensial yn y flwyddyn heriol hon.",
"annualReport.2020.EDMessageText2": "Gwaethygwyd y strwythurau annheg rydym wedi'u hadeiladu i addysgu plant gan y pandemig. Trwy ein sgyrsiau gyda theuluoedd ac addysgwyr o bob cwr o'r byd, rydyn ni'n gwybod bod angen cyfleoedd dysgu creadigol ar blant o bob cymuned yn 2020 i fynegi eu syniadau ac adeiladu eu sgiliau yn fwy nag erioed, hyd yn oed er nad oedd gan lawer ohonyn nhw'r gallu i fynd i'r ysgol.",
"annualReport.2020.EDMessageText3": "Wrth i'r byd addasu ac agosáu at ddysgu creadigol a hunanfynegiant mewn ffyrdd newydd, trodd llawer o addysgwyr, rhieni a phobl ifanc at Scratch. Gwelsom 40% yn fwy o Scratchwyr yn creu projectau flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gadawodd Scratchwyr 200% yn fwy o sylwadau yn 2020 nag yn 2019. Defnyddiodd pobl ifanc o bob cwr o'r byd Scratch fel lle i gysylltu, sgwrsio, cydweithredu ac ymgysylltu â'i gilydd. Gwelsom hwy yn darganfod y pethau anhygoel y gallent eu creu pan gawsant gyfle i feddwl yn greadigol a datrys problemau yr oeddent yn angerddol amdanynt.",
"annualReport.2020.EDMessageText4": "Yn sgil y pandemig, mae rhai wedi galw am “ddychwelyd i'r normal.” Ond i lawer o bobl ifanc, roedd y rhyddid i ddysgu ac archwilio ar goll yn ein hysgolion ymhell cyn COVID-19.",
"annualReport.2020.EDMessagePullQuote": "Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i newid yr anghydraddoldebau systemig yn ein systemau addysgol, oherwydd ni adeiladwyd “normal” i fod yn deg ac yn gyfiawn i'r rhan fwyaf o'n plant.",
"annualReport.2020.EDMessageText5": "Yn 2021, mae Scratch yn dyblu ein hymdrechion i gyrraedd pobl ifanc sydd wedi'u gwahardd yn hanesyddol o gyfrifiadura creadigol a chyfleoedd dysgu creadigol eraill. Gyda chefnogaeth Google.org, rydym wedi lansio'r Scratch Education Collaborative (SEC), rhwydwaith pwerus o sefydliadau ledled y byd sy'n canolbwyntio ar gefnogi'r dysgwyr hyn i ddatblygu eu hyder mewn cyfrifiadura creadigol. Bydd y 41 sefydliad ym mlwyddyn un y rhaglen newydd yn cysylltu â'r Tîm Scratch a'i gilydd ac yn dysgu oddi wrthynt, ac yn datblygu Pecynnau Cymorth Ecwiti a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt dyfu ac addasu eu cefnogaeth i'r dysgwyr yn eu cymuned.",
"annualReport.2020.EDMessageText6": "Mae ein gwaith i wneud Scratch hyd yn oed yn fwy teg a chynhwysol ymhell o fod ar ben. Rwy'n gyffrous fedru i rannu mwy gyda chi yn ystod y misoedd nesaf. Tan hynny, hoffwn estyn fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Gymuned Scratch am barhau i gefnogi a gofalu am ein gilydd trwy flwyddyn gythryblus. Nid yw eich creadigrwydd a'ch tosturi byth yn peidio â'n hysbrydoli.",
"annualReport.2020.EDTitle": "Cyfarwyddwr Gweithredol, Scratch Foundation",
"annualReport.2020.lookingForward": "Edrych i'r Dyfodol",
"annualReport.2020.lookingForwardText1": "Yn 2021, rydym yn parhau i arloesi a chydweithio â'n partneriaid i wneud Scratch hyd yn oed yn well i bobl ifanc ledled y byd. Yn ystod y misoedd nesaf, rydym yn gweithio i ddod â Scratch i mewn i fwy o ysgolion, ehangu llwybrau i ddysgu creadigol, datblygu a lleoleiddio mwy o adnoddau ar gyfer addysgwyr a phobl ifanc, a gwella profiad Scratch, a phrojectau hyd yn oed yn fwy cyffrous.",
"annualReport.2020.lookingForwardText2": "Rydym wedi derbyn grantiau hael gan y LEGO Foundation a Google.org i helpu i ehangu ein cyrhaeddiad byd-eang, hyrwyddo ein cenhadaeth, a chefnogi'r gwaith pwysig hwn. Rhagor:",
"annualReport.2020.learnMore": "Rhagor:",
"annualReport.2020.learnMoreLink1Text": "Mae'r LEGO Foundation a'r Scratch Foundation yn cyhoeddi partneriaeth i gefnogi dysgu trwy chwarae gyda thechnoleg i filiynau o blant ledled y byd",
"annualReport.2020.learnMoreLink2Text": "Wythnos Addysg Cyfrifiadureg: Ragor o help i fwy o fyfyrwyr",
"annualReport.2020.supportersTitle": "Diolch i'n Cefnogwyr",
"annualReport.2020.supportersIntro": "Diolch i'n cefnogwyr hael. Mae eich cyfraniad yn ein helpu i ehangu cyfleoedd dysgu creadigol i blant o bob oed, o bob cefndir, ledled y byd.",
"annualReport.2020.ourSupporters": "Ein Cefnogwyr",
"annualReport.2020.ourSupportersText": "Hoffwn ddiolch i holl gefnogwyr Scratch sydd, ar hyd y blynyddoedd, wedi ein helpu i greu profiadau dysgu anhygoel i filiynau o bobl ifanc ledled y byd. Mae'r rhestr ganlynol yn seiliedig ar y rhoi cronnus i'r Scratch Foundation o Ionawr 1, 2020 hyd Ragfyr 31, 2020.",
"annualReport.2020.supportersFoundingTitle": "Partneriaid Sefydlu — $10,000,000+",
"annualReport.2020.supportersFoundingText": "Rydym yn arbennig o ddiolchgar i'n Partneriaid Sefydlu sydd i gyd wedi darparu o leiaf $10,000,000 mewn cefnogaeth gronnus, ers dechrau Scratch yn 2003.",
"annualReport.2020.supportersCatPartnersTitle": "Partneriaid Scratch Cat — $1,000,000+",
"annualReport.2020.supportersCreativityTitle": "Cylch Creadigrwydd — $250,000+",
"annualReport.2020.supportersCollaborationTitle": "Cylch Cydweithio — $100,000+",
"annualReport.2020.supportersImaginationTitle": "Cylch Dychymyg — $ 50,000 +",
"annualReport.2020.supportersInspirationTitle": "Cylch Ysbrydoliaeth — $ 20,000 +",
"annualReport.2020.supportersExplorationTitle": "Cylch Archwilio — $ 5,000 +",
"annualReport.2020.supportersPlayTitle": "Cylch Chwarae — $1,000+",
"annualReport.2020.supportersInKindTitle": "Cefnogwyr Mewn Nwyddau",
"annualReport.2020.leadershipTitle": "Ein Tîm",
"annualReport.2020.leadershipBoard": "Bwrdd Cyfarwyddwyr",
"annualReport.2020.leadershipChair": "Cadeirydd",
"annualReport.2020.leadershipProfessor": "Athro Ymchwil Dysgu",
"annualReport.2020.leadershipViceChair": "Is-gadeirydd",
"annualReport.2020.leadershipCoFounder": "Cyd-sylfaenydd a Chyd-Gadeirydd",
"annualReport.2020.leadershipBoardMember": "Aelod o'r Bwrdd",
"annualReport.2020.leadershipPresidentCEO": "Arlywydd a Phrif Swyddog Gweithredol",
"annualReport.2020.leadershipFormerPresident": "Cyn-arlywydd",
"annualReport.2020.leadershipFounderCEO": "Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol",
"annualReport.2020.leadershipFormerChairCEO": "Cyn Gadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol",
"annualReport.2020.leadershipBoardSecretaryTreasurer": "Ysgrifennydd a Thrysorydd y Bwrdd",
"annualReport.2020.leadershipBoardSecretary": "Ysgrifennydd y Bwrdd",
"annualReport.2020.leadershipBoardTreasurer": "Trysorydd y Bwrdd",
"annualReport.2020.leadershipScratchTeam": "Tîm Scratch",
"annualReport.2020.leadershipED": "Cyfarwyddwr Gweithredol",
"annualReport.2020.teamThankYou": "Diolch i Mitch Resnick, Natalie Rusk, Rupal Jain, a chydweithredwyr eraill yn y Lifelong Kindergarten Group yn yr MIT Media Lab am eich cefnogaeth ddiflino i Scratch.",
"annualReport.2020.donateTitle": "Cefnogwch Ni",
"annualReport.2020.donateMessage": "Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i ddarparu Scratch yn rhad ac am ddim i bawb, yn cadw ein gweinyddwyr i redeg, ac yn bwysicaf oll, rydym yn gallu rhoi cyfle i blant ledled y byd ddychmygu, creu a rhannu. Diolch!",
"annualReport.2020.donateButton": "Rhoi",
"annualReport.2020.projectBy": "project gan",
"annualReport.2020.altAvatar": "afatar defnyddiwr",
"annualReport.2020.altDropdownArrow": "Saeth yn nodi'r gwymplen.",
"annualReport.2020.altMastheadIllustration": "Tri pherson yn rhyngweithio â chydrannau Scratch corfforol.",
"annualReport.2020.altWave": "Emoji llaw yn chwifio.",
"annualReport.2020.altMitchHeadshot": "Sylfaenydd Mitch Resnick",
"annualReport.2020.altBlocks": "Dau floc Scratch wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd.",
"annualReport.2020.altBanana": "Banana gyda gwifren wedi'i blygio i mewn iddi.",
"annualReport.2020.altProjectsIllustration": "Tri phlentyn, un yn sefyll, un yn eistedd mewn cadair olwyn, ac un yn eistedd ar y ddaear yn paentio ac yn torri projectau celf.",
"annualReport.2020.altPassionIllustration": "Mae tri o blant, un yn sefyll, un yn penlinio, ac un yn eistedd ar y ddaear yn paentio, yn chwarae cerddoriaeth ar biano, ac yn edrych ar y sêr gan ddefnyddio telesgop.",
"annualReport.2020.altPeersIllustration": "Mae pedwar o blant yn eistedd o amgylch tân gwersyll yn chwarae gemau ac yn pawenu'n llawen.",
"annualReport.2020.altPlayIllustration": "Mae tri o blant, un yn sefyll, un yn penlinio, ac un yn eistedd wedi croesi'u coesau yn pentyrru cerrig, yn chwarae gyda chychod tegan, ac yn plygu origami.",
"annualReport.2020.altCalendar": "Calendr yn dangos y flwyddyn 2020.",
"annualReport.2020.altCommentsVisualization": "Dwy swigen sylwadau. Un llai a thywyllach yn cynrychioli cyfran y sylwadau yn 2019. Un goleuach yn cynrychioli'r cynnydd mewn sylwadau a wnaed yn 2020.",
"annualReport.2020.altArrowUp": "Saeth yn pwyntio i fyny ac i'r dde.",
"annualReport.2020.altTranslated": "Mae cydran scratch sy'n dweud \"Helo\" ac yn rhestru ieithoedd y mae Scratch ar gael ynddynt.",
"annualReport.2020.altScratchHorizontalCommand": "Cydran gorchymyn llorweddol Scratch.",
"annualReport.2020.altScratchJr": "Logo Scratch Jr.",
"annualReport.2020.altHorizontalLoop": "Cydran dolen lorweddol Scratch.",
"annualReport.2020.altPieChart": "Delweddu yn dangos y cynnydd o 602% mewn projectau a grëwyd yn ystod 2020 p gymharu â phrojectau a grëwyd yn 2019.",
"annualReport.2020.altUsers": "Dau eicon defnyddiwr generig, un llwyd ychydig yn llai ac un porffor ychydig yn fwy.",
"annualReport.2020.altArrowNext": "Saeth yn pwyntio i'r dde.",
"annualReport.2020.altBenedict": "Avatar Benedikt Hochwartner",
"annualReport.2020.altAaronReuland": "Mewnosod Aaron Reuland dros byped bag papur a llun o grwban yn hedfan.",
"annualReport.2020.altSprinklesLeft": "Wyneb gwenog, cydran Scratch, a chalon yn cael ei dangos ar ffôn.",
"annualReport.2020.altSprinklesRight": "Llaw yn rhyngweithio â chydrannau Scratch.",
"annualReport.2020.altFileDownload": "Saeth yn pwyntio i mewn i fasged sy'n nodi bod modd llwytho ffeil i lawr.",
"annualReport.2020.altWaveTop": "Ton las ysgafn wedi'i gorchuddio ag afatarau Scratch a chydrannau Scratch.",
"annualReport.2020.altWaveBottom": "Ton las golau.",
"annualReport.2020.altConnectingLine": "Llinell doredig yn cysylltu'r misoedd",
"annualReport.2020.altApril": "Lluniad pen a phensil ar broject Scratch yn darlunio cwch a dŵr.",
"annualReport.2020.altMay": "Calendr wedi'i farcio ag emojis wedi'i osod ar swigen.",
"annualReport.2020.altJune": "Baner Juneteenth ac awyren bapur.",
"annualReport.2020.altJuly": "Meicroffon a nodiadau cerdd.",
"annualReport.2020.altToolsIllustration": "Llaw yn cyffwrdd ag eicon pwynt ebychnod uwchlaw ychydig o swigod testun.",
"annualReport.2020.altVirtualTown": "Mae merch yn rhedeg ar hyd palmant o flaen ychydig o dai.",
"annualReport.2020.altCatchGame": "Mae afal yn arnofio ar y gorwel i'r dde tra bod basged yn eistedd islaw tuag at ganol y ffrâm.",
"annualReport.2020.altCharacterDesigner": "Mae ci yn eistedd o flaen cefndir chevron gwyrdd a gwyn.",
"annualReport.2020.altVirtualPet": "Mae draenog yn eistedd ar ben craig yng nghanol rhywfaint o laswellt.",
"annualReport.2020.altLookingForward": "Mae coeden sy'n dyfrio yn dyfrhau glasbren sy'n tyfu i fod yn goeden dal.",
"annualReport.2020.altIndia1": "Mae gwreichionen wedi'i goleuo'n ymddangos o dan y testun yn dweud \"Diwali hapus!\"",
"annualReport.2020.altIndia2": "Mae'r masgot cath Scratch yn ymddangos wrth ymyl rhywfaint o destun a ysgrifennwyd yn Hindi",
"annualReport.2020.altIndia3": "Mae dynes Indiaidd yn ymddangos o flaen baner India sydd â chalon sy'n cynnwys y gair \"India\" arni.",
"annualReport.2020.altIndia4": "Mae dwy law yn ymddangos dros ffliwt o flaen cefndir sy'n cynnwys llwybr pren a môr.",
"annualReport.2020.altChile": "Mae grŵp o blant yn eistedd o amgylch bwrdd wedi'i lenwi â chelf a chrefft a gliniadur.",
"annualReport.2020.altBrazil": "Mae plant yn eistedd o flaen gliniadur wedi'i gysylltu â phum llwy gyda gwifrau.",
"annualReport.2020.altIndia": "Mae afal yn arnofio ar y gorwel i'r dde tra bod basged yn eistedd islaw tuag at ganol y ffrâm.",
"annualReport.2020.altUSA": "Mae llun bach fideo yn cael ei ddangos wrth ymyl llun o ryngwyneb defnyddiwr Scratch",
"annualReport.2020.altChileIcon": "Masgot Scratch",
"annualReport.2020.altBrazilIcon": "Chwyrlïen werdd",
"annualReport.2020.altIndiaIcon": "Seren wedi'i chyd-gloi â chylch",
"annualReport.2020.altUSAIcon": "Mafon cartŵn, logo Raspberry Pi",
"annualReport.2020.altTutorial": "Tiwtorial Scratch yn Sbaeneg",
"annualReport.2020.altGettingStarted": "Mae botwm chwarae yn eistedd ar ben yr UI Scratch.",
"annualReport.2020.altEditor": "Rhyngwyneb Scratch ynghyd â rhagolwg o'r rhaglen sy'n cael ei adeiladu yn dangos dau berson yn siarad â'i gilydd.",
"annualReport.2020.altHackYourWindow": "Ci mewn helmed ofod, seren, a thoesen yn arnofio y tu allan i ffenestr yn y gofod.",
"annualReport.2020.altScratchInteraction": "Dau berson yn siarad ymhlith cydrannau Scratch. Mae un yn rhoi cydran i'r llall.",
"annualReport.2020.altImageBubbles": "Delweddau o brojectau Scratch yn ymddangos mewn siapiau swigen wedi'u grwpio gyda'i gilydd.",
"annualReport.2020.altConnectivityVideoPreview": "Botwm chwarae yn ymddangos dros olygfa o greaduriaid môr cyfeillgar.",
"annualReport.2020.altAdaptationVideoPreview": "Botwm chwarae yn ymddangos dros olygfeydd amrywiol o ryngwyneb defnyddiwr Scratch.",
"annualReport.2020.altJanuaryCard": "Rey o Star Wars yn dal ffon ac yn sefyll yn yr anialwch.",
"annualReport.2020.altAprilCard": "Lluniau sgrin lluosog o ryngwyneb Scratch yn cael eu gosod gyda'i gilydd.",
"annualReport.2020.altMayCard": "Dwylo sy'n perthyn i bobl o amrywiaeth o hil yn cael eu codi fel dyrnau.",
"annualReport.2020.altJuneCard": "Person yn styffylu blodyn papur at ei gilydd.",
"annualReport.2020.altJulyCard": "Cranc, môr-forwyn, ac octopws yn chwarae cerddoriaeth gyda'i gilydd o dan y môr.",
"annualReport.2020.altOctoberCard": "Pwmpen a candy corn yn ymddangos ar y wal uwchben gweithfan gyfrifiadurol.",
"annualReport.2020.altDonateIllustration": "Dwy law yn ffurfio siâp calon â'u bysedd y tu mewn i siâp calon wedi'i dorri allan."
}