{ "becomeAScratcher.buttons.back": "Nôl", "becomeAScratcher.buttons.next": "Nesaf", "becomeAScratcher.buttons.communityGuidelines": "Canllawiau Cymunedol", "becomeAScratcher.buttons.getStarted": "Cychwyn Arni", "becomeAScratcher.buttons.finishLater": "Gorffen yn Hwyrach", "becomeAScratcher.buttons.goBack": "Mynd Nôl", "becomeAScratcher.buttons.iAgree": "Rwy'n Cytuno", "becomeAScratcher.buttons.takeMeBack": "Cymrwch fi nôl i Scratch", "becomeAScratcher.buttons.backToProfile": "Nôl i'r Dudalen Proffil", "becomeAScratcher.congratulations.header": "Llongyfarchiadau, {username}! Rydych wedi dangos eich bod chi'n barod i ddod yn Scratchwr.", "becomeAScratcher.congratulations.body": "Mae Scratch yn gymuned gyfeillgar a chroesawgar i bawb, lle mae pobl yn creu, rhannu a dysgu gyda'i gilydd. Rydym yn croesawu pobl o bob oed, hil, ethnigrwydd, crefydd, gallu, cyfeiriadedd rhywiol, a hunaniaeth rhywiol.", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.header": "Beth mae bod yn Scratchwr yn ei olygu?", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.body": "Efallai y byddwch yn sylwi ar eich tudalen proffil eich bod yn “Scratchwr Newydd” ar hyn o bryd. Nawr eich bod wedi treulio peth amser ar Scratch, rydym yn eich gwahodd i ddod yn “Scratchwr”.", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.definition": "Mae gan Scratchwyr ychydig mwy o brofiad ar Scratch ac maen nhw'n awyddus i gyfrannu at y gymuned ac i'w wneud yn ofod cefnogol a chroesawgar i eraill.", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.canDo": "Dyma rai pethau y mae Scratchwyr yn eu gwneud:", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.createStudios": "Creu stiwdios", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.helpOut": "Helpu yn y gymuned", "becomeAScratcher.toBeAScratcher.communityGuidelines": "Nesaf, byddwn yn eich tywys trwy'r canllawiau cymunedol ac yn egluro beth yw'r rhain.", "becomeAScratcher.invitation.header": "{username}, rydym yn eich gwahodd i ddod yn Scratchwr.", "becomeAScratcher.invitation.body": "Mae Scratch yn gymuned gyfeillgar a chroesawgar i bawb. Os ydych chi'n cytuno i fod yn barchus, bod yn ddiogel, yn rhoi adborth defnyddiol, yn croesawu diwylliant ailgymysgu, yn onest, ac yn helpu i gadw'r wefan yn gyfeillgar, cliciwch \"Rwy'n cytuno!\"", "becomeAScratcher.invitation.finishLater": "Chi sy'n cael penderfynu a ydych am ddod yn Scratchwr. Os nad ydych chi eisiau bod yn Scratchwr eto, cliciwch \"Gorffen yn Hwyrach\" uchod.", "registration.success.error": "Ymddiheuriadau, digwyddodd gwall annisgwyl.", "becomeAScratcher.success.header": "Hwre! Rydych chi bellach yn swyddogol yn Scratchwr.", "becomeAScratcher.success.body": "Dyma rai dolenni a allai fod o gymorth i chi.", "becomeAScratcher.success.communityGuidelines": "Canllawiau Cymunedol", "becomeAScratcher.success.createAProject": "Creu Project", "becomeAScratcher.noInvitation.header": "Wps! Mae'n debyg nad ydych chi wedi derbyn gwahoddiad i ddod yn Scratchwr eto.", "becomeAScratcher.noInvitation.body": "I ddod yn Scratchwr, rhaid i chi fod yn weithgar ar Scratch am ychydig, rhannu sawl project, a rhoi sylwadau adeiladol yn y gymuned. Ar ôl ychydig wythnosau, byddwch yn derbyn hysbysiad yn eich gwahodd i ddod yn Scratchwr. Amdani!", "becomeAScratcher.finishLater.header": "Peidiwch â phoenir, cymerwch eich amser!", "becomeAScratcher.finishLater.body": "Trwy adael y dudalen hon, fyddwch chi ddim yn gorffen y broses i ddod yn Scratchwr a byddwch yn aros fel Scratchwr Newydd. Os byddwch chi'n newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch chi bob amser ddod yn ôl trwy'ch tudalen broffil.", "becomeAScratcher.finishLater.clickBecomeAScratcher": "Cliciwch ar “★ Dod yn Scratchwr!” o dan eich enw defnyddiwr.", "communityGuidelines.guidelines.respectSection": "Dod yn Scratchwr - Trin pawb gyda pharch", "communityGuidelines.guidelines.respectHeader": "Mae Scratchwr yn trin pawb â pharch.", "communityGuidelines.guidelines.respectBody": "Mae pawb ar Scratch yn cael eu annog i rannu pethau sy’n eu cyffroi ac sy’n bwysig iddyn nhw—gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i ffyrdd o ddathlu eich hunaniaeth eich hun ar Scratch, a chaniatáu i eraill wneud yr un peth.", "communityGuidelines.guidelines.safeSection": "Dod yn Scratchwr - Byddwch yn ddiogel", "communityGuidelines.guidelines.safeHeader": "Mae Scratchwyr yn ddiogel: rydym yn cadw manylion personol a chyswllt yn breifat.", "communityGuidelines.guidelines.safeBody": "Mae hyn yn cynnwys peidio â rhannu enwau olaf go iawn, rhifau ffôn, cyfeiriadau, trefi enedigol, enwau ysgolion, cyfeiriadau e-bost, enwau defnyddwyr neu ddolenni i wefannau cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni sgwrsio fideo, neu wefannau a nodweddion sgwrsio preifat.", "communityGuidelines.guidelines.feedbackSection": "Dod yn Scratchwr - Rhowch adborth defnyddiol", "communityGuidelines.guidelines.feedbackHeader": "Mae Scratchwyr yn rhoi adborth defnyddiol.", "communityGuidelines.guidelines.feedbackBody": "Wrth wneud sylwadau ar broject, cofiwch ddweud rhywbeth rydych yn ei hoffi amdano, cynigiwch awgrymiadau, a byddwch yn garedig, nid yn feirniadol.", "communityGuidelines.guidelines.remix1Section": "Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu", "communityGuidelines.guidelines.remix1Header": "Mae Scratchwyr yn cofleidio diwylliant ailgymysgu.", "communityGuidelines.guidelines.remix1Body": "Ailgymysgu yw pan fyddwch chi'n adeiladu ar brojectau, cod, syniadau, delweddau, neu unrhyw beth arall y maen nhw'n ei rannu ar Scratch i wneud eich creadigaeth unigryw eich hun.", "communityGuidelines.guidelines.remix2Section": "Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu", "communityGuidelines.guidelines.remix2Header": "Mae ailgymysgu yn ffordd wych o gydweithio a chysylltu â Scratchwyr eraill.", "communityGuidelines.guidelines.remix2Body": "Rydym yn eich annog i ddefnyddio unrhyw beth rydych yn ei ddarganfod ar Scratch yn eich creadigaethau eich hun, cyn belled â'ch bod yn rhoi clod i bawb rydych wedi defnyddio eu gwaith ac wedi gwneud newid ystyrlon iddo.", "communityGuidelines.guidelines.remix3Section": "Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu", "communityGuidelines.guidelines.remix3Header": "Mae ailgymysgu yn golygu rhannu gydag eraill.", "communityGuidelines.guidelines.remix3Body": "Pan fyddwch chi'n rhannu rhywbeth ar Scratch, rydych chi'n rhoi caniatâd i bob Scratchwyr ddefnyddio'ch gwaith yn eu creadigaethau hefyd.", "communityGuidelines.guidelines.honestSection": "Dod yn Scratchwr - Byddwch yn onest", "communityGuidelines.guidelines.honestHeader": "Mae Scratchwyr yn onest.", "communityGuidelines.guidelines.honestBody": "Mae'n bwysig bod yn onest ac yn ddilys wrth ryngweithio ag eraill ar Scratch, a chofiwch fod yna berson y tu ôl i bob cyfrif Scratch.", "communityGuidelines.guidelines.friendlySection": "Dod yn Scratchwyr - Cadwch y wefan yn gyfeillgar", "communityGuidelines.guidelines.friendlyHeader": "Mae Scratchwyr yn helpu i gadw'r wefan yn gyfeillgar.", "communityGuidelines.guidelines.friendlyBody": "Mae’n bwysig cadw’ch creadigaethau a’ch sgyrsiau yn gyfeillgar ac yn briodol i bob oed. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth ar Scratch yn angharedig, yn sarhaus, yn rhy dreisgar, neu'n amharu ar y gymuned fel arall, cliciwch ar “Adroddiad” i roi gwybod i ni amdano." }