"becomeAScratcher.buttons.takeMeBack":"Cymrwch fi nôl i Scratch",
"becomeAScratcher.buttons.backToProfile":"Nôl i'r Dudalen Proffil",
"becomeAScratcher.congratulations.header":"Llongyfarchiadau, {username}! Rydych wedi dangos eich bod chi'n barod i ddod yn Scratchwr.",
"becomeAScratcher.congratulations.body":"Mae Scratch yn gymuned gyfeillgar a chroesawgar i bawb, lle mae pobl yn creu, rhannu a dysgu gyda'i gilydd. Rydym yn croesawu pobl o bob oed, hil, ethnigrwydd, crefydd, gallu, cyfeiriadedd rhywiol, a hunaniaeth rhywiol.",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.header":"Beth mae bod yn Scratchwr yn ei olygu?",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.body":"Efallai y byddwch yn sylwi ar eich tudalen proffil eich bod yn “Scratchwr Newydd” ar hyn o bryd. Nawr eich bod wedi treulio peth amser ar Scratch, rydym yn eich gwahodd i ddod yn “Scratchwr”.",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.definition":"Mae gan Scratchwyr ychydig mwy o brofiad ar Scratch ac maen nhw'n awyddus i gyfrannu at y gymuned ac i'w wneud yn ofod cefnogol a chroesawgar i eraill.",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.canDo":"Dyma rai pethau y mae Scratchwyr yn eu gwneud:",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.helpOut":"Helpu yn y gymuned",
"becomeAScratcher.toBeAScratcher.communityGuidelines":"Nesaf, byddwn yn eich tywys trwy'r canllawiau cymunedol ac yn egluro beth yw'r rhain.",
"becomeAScratcher.invitation.header":"{username}, rydym yn eich gwahodd i ddod yn Scratchwr.",
"becomeAScratcher.invitation.body":"Mae Scratch yn gymuned gyfeillgar a chroesawgar i bawb. Os ydych chi'n cytuno i fod yn barchus, bod yn ddiogel, yn rhoi adborth defnyddiol, yn croesawu diwylliant ailgymysgu, yn onest, ac yn helpu i gadw'r wefan yn gyfeillgar, cliciwch \"Rwy'n cytuno!\"",
"becomeAScratcher.invitation.finishLater":"Chi sy'n cael penderfynu a ydych am ddod yn Scratchwr. Os nad ydych chi eisiau bod yn Scratchwr eto, cliciwch \"Gorffen yn Hwyrach\" uchod.",
"becomeAScratcher.noInvitation.header":"Wps! Mae'n debyg nad ydych chi wedi derbyn gwahoddiad i ddod yn Scratchwr eto.",
"becomeAScratcher.noInvitation.body":"I ddod yn Scratchwr, rhaid i chi fod yn weithgar ar Scratch am ychydig, rhannu sawl project, a rhoi sylwadau adeiladol yn y gymuned. Ar ôl ychydig wythnosau, byddwch yn derbyn hysbysiad yn eich gwahodd i ddod yn Scratchwr. Amdani!",
"becomeAScratcher.finishLater.header":"Peidiwch â phoenir, cymerwch eich amser!",
"becomeAScratcher.finishLater.body":"Trwy adael y dudalen hon, fyddwch chi ddim yn gorffen y broses i ddod yn Scratchwr a byddwch yn aros fel Scratchwr Newydd. Os byddwch chi'n newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch chi bob amser ddod yn ôl trwy'ch tudalen broffil.",
"becomeAScratcher.finishLater.clickBecomeAScratcher":"Cliciwch ar “★ Dod yn Scratchwr!” o dan eich enw defnyddiwr.",
"communityGuidelines.guidelines.respectSection":"Dod yn Scratchwr - Trin pawb gyda pharch",
"communityGuidelines.guidelines.respectHeader":"Mae Scratchwr yn trin pawb â pharch.",
"communityGuidelines.guidelines.respectBody":"Mae pawb ar Scratch yn cael eu annog i rannu pethau sy’n eu cyffroi ac sy’n bwysig iddyn nhw—gobeithiwn y byddwch yn dod o hyd i ffyrdd o ddathlu eich hunaniaeth eich hun ar Scratch, a chaniatáu i eraill wneud yr un peth.",
"communityGuidelines.guidelines.safeSection":"Dod yn Scratchwr - Byddwch yn ddiogel",
"communityGuidelines.guidelines.safeHeader":"Mae Scratchwyr yn ddiogel: rydym yn cadw manylion personol a chyswllt yn breifat.",
"communityGuidelines.guidelines.safeBody":"Mae hyn yn cynnwys peidio â rhannu enwau olaf go iawn, rhifau ffôn, cyfeiriadau, trefi enedigol, enwau ysgolion, cyfeiriadau e-bost, enwau defnyddwyr neu ddolenni i wefannau cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni sgwrsio fideo, neu wefannau a nodweddion sgwrsio preifat.",
"communityGuidelines.guidelines.feedbackSection":"Dod yn Scratchwr - Rhowch adborth defnyddiol",
"communityGuidelines.guidelines.feedbackHeader":"Mae Scratchwyr yn rhoi adborth defnyddiol.",
"communityGuidelines.guidelines.feedbackBody":"Wrth wneud sylwadau ar broject, cofiwch ddweud rhywbeth rydych yn ei hoffi amdano, cynigiwch awgrymiadau, a byddwch yn garedig, nid yn feirniadol.",
"communityGuidelines.guidelines.remix1Section":"Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu",
"communityGuidelines.guidelines.remix1Header":"Mae Scratchwyr yn cofleidio diwylliant ailgymysgu.",
"communityGuidelines.guidelines.remix1Body":"Ailgymysgu yw pan fyddwch chi'n adeiladu ar brojectau, cod, syniadau, delweddau, neu unrhyw beth arall y maen nhw'n ei rannu ar Scratch i wneud eich creadigaeth unigryw eich hun.",
"communityGuidelines.guidelines.remix2Section":"Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu",
"communityGuidelines.guidelines.remix2Header":"Mae ailgymysgu yn ffordd wych o gydweithio a chysylltu â Scratchwyr eraill.",
"communityGuidelines.guidelines.remix2Body":"Rydym yn eich annog i ddefnyddio unrhyw beth rydych yn ei ddarganfod ar Scratch yn eich creadigaethau eich hun, cyn belled â'ch bod yn rhoi clod i bawb rydych wedi defnyddio eu gwaith ac wedi gwneud newid ystyrlon iddo.",
"communityGuidelines.guidelines.remix3Section":"Dod yn Scratchwyr - Cofleidiwch ddiwylliant ailgymysgu",
"communityGuidelines.guidelines.remix3Header":"Mae ailgymysgu yn golygu rhannu gydag eraill.",
"communityGuidelines.guidelines.remix3Body":"Pan fyddwch chi'n rhannu rhywbeth ar Scratch, rydych chi'n rhoi caniatâd i bob Scratchwyr ddefnyddio'ch gwaith yn eu creadigaethau hefyd.",
"communityGuidelines.guidelines.honestSection":"Dod yn Scratchwr - Byddwch yn onest",
"communityGuidelines.guidelines.honestHeader":"Mae Scratchwyr yn onest.",
"communityGuidelines.guidelines.honestBody":"Mae'n bwysig bod yn onest ac yn ddilys wrth ryngweithio ag eraill ar Scratch, a chofiwch fod yna berson y tu ôl i bob cyfrif Scratch.",
"communityGuidelines.guidelines.friendlySection":"Dod yn Scratchwyr - Cadwch y wefan yn gyfeillgar",
"communityGuidelines.guidelines.friendlyHeader":"Mae Scratchwyr yn helpu i gadw'r wefan yn gyfeillgar.",
"communityGuidelines.guidelines.friendlyBody":"Mae’n bwysig cadw’ch creadigaethau a’ch sgyrsiau yn gyfeillgar ac yn briodol i bob oed. Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth ar Scratch yn angharedig, yn sarhaus, yn rhy dreisgar, neu'n amharu ar y gymuned fel arall, cliciwch ar “Adroddiad” i roi gwybod i ni amdano."