"conference-2019.descA":"Mae cynadleddau Scratch yn gyfarfodydd chwareus o addysgwyr, ymchwilwyr, datblygwyr ac aelodau eraill o gymuned fyd-eang Scratch.",
"conference-2019.descB":"Mae'r digwyddiadau hyn, sy'n cael eu cynnal ledled y byd, yn darparu cyfleoedd i bobl o gefndiroedd ac ymarfer gwahanol i drafod sut maen nhw'n cefnogi plant sy'n defnyddio Scratch, i gyd-weithio a rhannu syniadau gyda'i gilydd ac i ddwyn strategaethau a gweithgareddau dysgu creadigol newydd nôl i'w cymunedau.",
"conference-2019.descC":"Cafodd cynhadledd cyntaf Scratch ei gynnal yn MIT yn 2008 ac mae Tîm Scratch wedi parhau i gynnal cynhadledd Scratch bob yn ail flwyddyn. Bydd cynhadledd nesaf cratch@MIT yn cael ei gynnal yn haf 2020 (yn Cambridge, Massachusetts, UDA)",
"conference-2019.descD":"Yn ystod 2019 bydd nifer o gynadleddau Scratch yn cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill led-led y byd (gw. isod)",
"conference-2019.seeBelow":"Dyddiad a Lleoliad",
"conference-2019.joinMailingListButtonText":"Ymuno â'r rhestr e-byst",
"conference-2019.joinMailingList":"I ddysgu rhagor am gynhadledd Scratch@MIT yn Cambridge, Massachusetts ac i dderbyn diweddariadau am gynadleddau rhanbarthol led-led y byd, ymunwch â'n rhestr e-byst.",
"conference-2019.ukDesc":"Bydd Cynhadledd Ewrop Scratch 2019 yn cael ei noddi gan Raspberry Pi a'i gynnal yng Nghaergrawnt, Lloegr o ddydd Gwener 23 Awst hyd ddydd Sul 25 Awst. Mae'r amserlen yn llawn o weithgareddau ymarferol yn cael eu harwain gan aelodau cymuned Scratch. Gall fynychwyr edrych ymlaen at weithdai, sgyrsiau a chyflwyniadau ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys y Scratch 3.0 newydd ynghyd â chyfleoedd anffurfiol i sgwrsio a rhwydweithio!",
"conference-2019.ukAudience":"Gweithwyr proffesiynol a gwirfoddol addysgol",
"conference-2019.kenyaSubTitle":"Tonnau o Arloesedd",
"conference-2019.kenyaDesc":"Mewn cydnabyddiaeth o gyfraniadau technolegol Affrica i'r byd a photensial ieuenctid Affrica, mae Scratch 2019NBO yn cael ei gynnal yn Nairobi, Kenya. Ymunwch ag addysgwyr led-led y byd i rannu gwersi, grymuso pobl ifanc a dathlu llwyddiannau codio creadigol.",
"conference-2019.kenyaAudience":"Addysgwyr, myfyrwyr a chefnogwyr",
"conference-2019.chileDesc":"Mae Scratch al Sur yn gyfarfod o athrawon a chrewyr polisi i ddysgu am bwysigrwydd cyflwyno ieithoedd rhaglennu mewn ysgolion. Bydd yr holl ddarlithiau a gweithdai'n darparu'r cyfle i rannu profiadau gwahanol, o lefelau uwch i'r rheini sy'n cychwyn cyfrannu i gymuned fyd-eang Scratch.",
"conference-2019.chileAudience":"Athrawon a chrewyr polisi",
"conference-2019.spanishWithSimultaneous":"Sbaeneg - cyfieithu ar y pryd i'r Saesneg yn ystod y sesiynau llawn"