"sec.projectsIntro":"Mae'r Scratch Education Collaborative (SEC), gyda chefnogaeth Google.org, yn adeiladu rhwydwaith pwerus o sefydliadau ledled y byd",
"sec.projectsIntroBold":"yn canolbwyntio ar gefnogi dysgwyr o gymunedau sydd wedi bod, yn hanesyddol, wedi'i hymyleiddio a'u tan gefnogi i ddatblygu eu hyder gyda chyfrifiadura creadigol.",
"sec.projectsIntro2":"Bydd hyd at 10 sefydliad yn cael eu dewis ym mlwyddyn beilot 2021 i ehangu a chefnogi gwaith ei gilydd gydag ieuenctid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol gan gynnwys Americaniaid Du, LatinX, a Chynhenid, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, a chydweithio ag aelodau'r Scratch Foundation, yr MIT Media Lab, ac arweinwyr byd-eang eraill ym maes cyfrifiadura creadigol i ddatblygu arferion gorau ar gyfer gweithredu a chynnal cyfrifiadura creadigol diwylliannol gyda Scratch.",
"sec.projectsIntro3":"Mae'r SEC yn fenter allweddol i'r Scratch Foundation. Yn hanu o Lifelong Kindergarten Group yr MIT Media Lab a gyda dros 200 miliwn o ddefnyddwyr, Scratch yw cymuned godio fwyaf a mwyaf amrywiol y byd i blant sy'n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim.",
"sec.expectationsFromSec":"Fel aelod o rwydwaith SEC, mae'r buddion yn cynnwys:",
"sec.expectationsFromSecPoint1":"Cysylltu â'r Scratch Foundation, MIT Media Lab, a sefydliadau blaenllaw eraill o bob cwr o'r byd gyda phrofiad o weithredu dysgu creadigol gyda Scratch",
"sec.expectationsFromSecPoint2":"Tyfu gallu eich sefydliad trwy ddatblygiad proffesiynol sy'n canolbwyntio ar ecwiti",
"sec.expectationsFromSecPoint3":"Cydweithio i ddatblygu adnoddau codio creadigol, digwyddiadau a gweithdai sy'n canolbwyntio ar ecwiti gan ddefnyddio Scratch ar gyfer eich cymuned leol",
"sec.expectationsFromSecPoint4":"Mynediad at gyllid cychwynnol ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Scratch ac SEC ar gyfer eich cymuned leol",
"sec.expectationsFromOrgs":"Ymunwch â'r SEC Network:",
"sec.expectationsFromOrgsPoint1":"Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a gweithdai rhithwir chwarterol gyda Scratch Foundation a sefydliadau partner SEC yn ystod y flwyddyn",
"sec.expectationsFromOrgsPoint2":"Cynnal o leiaf un digwyddiad rhithwir cyfrifiadurol creadigol, tiwtorial, neu weithgaredd datblygiad proffesiynol ar gyfer eich cymuned yn 2021",
"sec.expectationsFromOrgsPoint3":"Datblygu a hyrwyddo adnoddau codio creadigol, digwyddiadau a gweithdai sy'n canolbwyntio ar ecwiti gan ddefnyddio Scratch ar gyfer eich cymuned leol",
"sec.expectationsFromOrgsPoint4":"Rhannu arferion gorau a chwricwla cyfrifiadurol creadigol arloesol gyda'r Scratch Foundation a chymuned SEC",
"sec.expectationsFromOrgsPoint5":"Hyrwyddo gwaith ac effaith eich sefydliad trwy sianeli cymdeithasol y Scratch Foundation, gwefannau, cylchlythyron, a Chynhadledd Scratch",
"sec.expectationsFromOrgsPoint6":"Hwyluso Scratch Day i'ch cymuned gyda chefnogaeth y Scratch Foundation",
"sec.eligibilityPoint1":"Primarily focused on supporting traditionally underrepresented youth, including Black, Latinx, and Indigenous people in the United States and/or globally",
"sec.eligibilityPoint2":"Yn gwasanaethu ieuenctid yn uniongyrchol trwy ddysgu creadigol a/neu fentrau codio creadigol",
"sec.eligibilityPoint3":"Wedi'i ddynodi corff dim-er-elw, neu ardal ysgol sydd wedi dangos ymrwymiad i arferion dysgu creadigol teg",
"sec.eligibilityPoint4":"Yn barod i gydweithio â Scratch a chymuned SEC i ddatblygu a defnyddio adnoddau cyfrifiadurol creadigol y bydd modd eu rhannu'n fyd-eang",
"sec.eligibilityPoint5":"Yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir chwarterol",
"sec.faqWhatIs":"Beth yw Dysgu Creadigol gyda Scratch?",
"sec.faqWhatIsAnswer":"Mae Scratch yn croesawu dysgu creadigol fel dull addysgol sy'n cefnogi myfyrwyr i ddatblygu fel meddylwyr creadigol a chyfranwyr i'w cymunedau. Mae’r dull Dysgu Creadigol yn canolbwyntio ar y 4P’s: Projects, Passion, Peers, a Play: gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar brojectau, yn seiliedig ar eu brwdfrydedd, mewn cydweithrediad â chyfoedion, mewn ysbryd chwareus (Resnick, 2017).",
"sec.faqWhatIsAnswer2":"I ddysgu mwy am sut mae'r Scratch Foundation a'r grŵp Lifelong Kindergarten yn meddwl am ddysgu creadigol, ewch i {lclLink}.",
"sec.faqLCLWebsite":"Gwefan Dysgu am Ddysgu Creadigol",
"sec.faqWhen":"Pryd mae'r rhaglen blwyddyn yn dechrau ac yn gorffen?",
"sec.faqWhenAnswer":"Mae'r rhaglen SEC yn cychwyn wythnos gyntaf Mai 2021, ac yn gorffen ym mis Mai 2022.",
"sec.faqUsingScratch":"Oes rhaid i mi fod yn defnyddio Scratch yn fy sefydliad yn barod?",
"sec.faqUsingScratchAnswer":"Na, nid oes angen i'ch sefydliad fod yn defnyddio Scratch yn barod.",
"sec.faqUsingScratchAnswer2":"Fel cyfranogwr yn yr SEC, byddwch yn cydweithredu wrth ddatblygu a gweithredu rhaglenni a digwyddiadau ar gyfer eich cymuned sy'n ymgorffori Scratch. Mae'n bwysig bod gan eich sefydliad a'r gymuned y byddwch chi'n eu cefnogi trwy eich gwaith gyda'r SEC gynllun ar gyfer cael mynediad at dechnoleg.",
"sec.faqBackground":"Oes angen i mi gael cefndir mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol?",
"sec.faqBackgroundAnswer":"Nid oes angen i chi fod â chefndir mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol, na bod yn gweithredu rhaglenni addysgol mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol er mwyn cymryd rhan yn yr SEC.",
"sec.faqBackgroundAnswer2":"Rydym yn annog defnyddio Scratch fel offeryn creadigol ac yn croesawu sefydliadau sydd â diddordeb mewn defnyddio Scratch mewn amrywiaeth o gyd-destunau.",
"sec.faqEligible":"Pa fathau o sefydliadau all wneud cais i fod yn aelodau o'r SEC?",
"sec.faqEligibleAnswer":"Mae croeso i sefydliadau dim-er-elw, ysgolion cyhoeddus, ysgolion ardal, prifysgolion, colegau ac endidau eraill y llywodraeth wneud cais.",
"sec.faqEligibleAnswer2":"Mae'r SEC yn annog sefydliadau o bob cwr o'r byd i ymgeisio.",
"sec.faqInternationalAnswer":"Ydy, mae'r SEC yn gymuned ryngwladol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau ledled y byd.",
"sec.faqEnglish":"A oes angen i'm sefydliad fod yn Saesneg ei iaith?",
"sec.faqEnglishAnswer":"Nid oes angen i'ch sefydliad fod yn Saesneg ei iaith er mwyn gwneud cais.",
"sec.faqEnglishAnswer2":"Gofynnwn i un aelod o'ch sefydliad gymryd rhan yn nigwyddiadau SEC, fydd yn cael eu cynnal yn Saesneg.",
"sec.faqHowManyMembers":"Sawl aelod o fy sefydliad fydd eu hangen i gymryd rhan?",
"sec.faqHowManyMembersAnswer":"Mae bod yn aelod o'r sefydliad yn gofyn am ymrwymiad gan, o leiaf, un cynrychiolydd a'r Cyfarwyddwr Gweithredol/Prif Swyddog Gweithredol/neu swydd gyfatebol.",
"sec.faqHowManyMembersAnswer2":"Bydd un aelod o'ch tîm yn gyfrifol am fynychu digwyddiadau SEC, a chyfathrebu ag aelodau Tîm Scratch a sefydliadau eraill sy'n cymryd rhan yn yr SEC.",
"sec.faqNotified":"Pryd y byddaf yn cael clywed fy mod wedi fy nerbyn?",
"sec.faqNotifiedAnswer":"Byddwch yn clywed gennym erbyn wythnos gyntaf Ebrill, 2021.",
"sec.faqHours":"Sawl awr y mis y dylwn ddisgwyl ei neilltuo i gymryd rhan yn yr SEC?",
"sec.faqHoursAnswer":"Dylech ddisgwyl treulio 4-10 awr y mis yn cymryd rhan mewn gwaith sy'n gysylltiedig ag SEC.",
"sec.faqVirtual":"A fydd y rhaglen yn hollol rithwir?",
"sec.faqVirtualAnswer":"Bydd yr holl weithdai a sesiynau ar gyfer blwyddyn 2021-2022 yn cael eu cynnal yn rhithwir.",
"sec.faqWorkshopLanguage":"Mae'r SEC yn gymuned ryngwladol, beth yw'r brif iaith y bydd gweithdai a sesiynau yn cael eu cynnig ynddi?",
"sec.faqWorkshopLanguageAnswer":"Bydd gweithdai a digwyddiadau SEC yn cael eu hwyluso yn Saesneg.",
"sec.faqCost":"Beth yw cost cymryd rhan yn yr SEC?",
"sec.faqCostAnswer":"Mae cymryd rhan yn yr SEC yn rhad ac am ddim i'r holl sefydliadau sy'n cymryd rhan.",
"sec.faqCulturallySustaining":"Beth ydyn ni'n ei olygu wrth gynnal yn ddiwylliannol yng nghyd-destun addysg?",
"sec.faqCulturallySustainingAnswer":"Mae addysgeg sy'n cynnal diwylliant yn grymuso myfyrwyr trwy greu profiadau addysgol sy'n ailddatgan, yn anrhydeddu, yn archwilio ac yn ehangu eu diwylliant, eu treftadaeth a'u cymunedau (Ladson-Billings, 1994). Nod Scratch a'r SEC yw grymuso addysgwyr a myfyrwyr ledled y byd trwy gymryd rhan mewn arferion dysgu creadigol sy'n ddiwylliannol berthnasol a phrofiadau cyfrifiadurol creadigol a fydd yn arwain at fframiau cyfeirio a phersbectif sy'n cynnal diwylliant (Hammond, 2015) ac yn cefnogi cysylltiadau personol perthnasol â chenhadaeth a gwerthoedd Scratch a'r SEC.",
"sec.faqFuture":"Nid wyf yn gallu cymryd rhan eleni, ond a allaf wneud cais yn y dyfodol?",
"sec.faqFutureAnswer":"Cewch! Ymunwch â'n {subscribeLink} i gadw cyswllt a derbyn diweddariadau am yr SEC yn y dyfodol.",