"teacherfaq.teacherWhatBody":"Mae Cyfrif Athro Scratch yn darparu nodweddion ychwanegol i addysgwyr reoli cyfranogiad dysgwyr ar Scratch, gan gynnwys y gallu i greu cyfrifon dysgwyr, trefnu prosiectau dysgwyr mewn stiwdios, a monitro sylwadau dysgwyr. Dysgwch ragor am Gyfrifon Athrawon yn y fideo isod:",
"teacherfaq.teacherWaitTitle":"Pam fod yn rhaid i mi aros diwrnod am fy nghyfrif?",
"teacherfaq.teacherWaitBody":"Mae Tîm Scratch yn defnyddio'r amser yma i asesu ceisiadau creu cyfrifon er mwyn dilysu fod y sawl sy'n creu'r cyfrif yn addysgwr.",
"teacherfaq.classMultipleTeachersTitle":"A all dosbarth gael sawl athro?",
"teacherfaq.classMultipleTeachersBody":"Dim ond un cyfrif athro y gall dosbarth fod yn gysylltiedig ag ef.",
"teacherfaq.convertToTeacherTitle":"Mae gen i gyfrif Scratch eisoes, a allwch chi ei wneud yn gyfrif Athro?",
"teacherfaq.convertToTeacherList":"Anfonwch e-bost at {helpEmail} a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:",
"teacherfaq.convertToTeacherUsername":"Eich enw defnyddiwr Scratch (Gwiriwch ddwywaith eich bod chi'n adnabod eich enw defnyddiwr trwy fewngofnodi iddo cyn cysylltu â ni!)",
"teacherfaq.convertToTeacherEmail":"Y cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Scratch",
"teacherfaq.convertToTeacherBirth":"Y mis a'r flwyddyn geni sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Scratch",
"teacherfaq.teacherPersonalTitle":"Pam fod angen i chi wybod am fy manylion personol yn ystod y cofrestru?",
"teacherfaq.teacherPersonalBody":"Rydym yn defnyddio'r manylion i ddilysu fod y sawl sy'n creu'r cyfrif yn addysgwr. Fyddwn ni ddim yn rhannu'r wybodaeth yma gyda neb arall, nac yn ei rhannu yn gyhoeddus ar y wefan.",
"teacherfaq.teacherEdTitle":"A yw cyfrifon Athro Scratch wedi eu cysylltu i gyfrifon ScratchEd?",
"teacherfaq.teacherEdBody":"Na. Nid yw cyfrifon Athro Scratch wedi eu cysylltu i gyfrifon <a href=\"http://scratched.gse.harvard.edu/\">ScratchEd</a>.",
"teacherfaq.studentTransferTitle":"A allaf drosglwyddo dysgwr o un Cyfrif Athro neu ddosbarth i un arall?",
"teacherfaq.studentTransferBody":"Na, nid yw'n bosibl trosglwyddo dysgwyr o un dosbarth neu athro i un arall. Gallwch greu Cyfrif Dysgwr newydd ar gyfer y dysgwr gan ddefnyddio Cyfrif Athro gwahanol os oes angen iddo fod yn rhan o ddosbarth newydd.",
"teacherfaq.studentVerifyBody":"Na. Mae cyfeiriad e-bost y Cyfrif Athro yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob Cyfrif Dysgwr, felly nid oes angen gwirio cyfeiriadau e-bost dysgwyr.",
"teacherfaq.studentEndTitle":"Beth fydd yn digwydd pan fyddai'n dod â'm dosbarth \"i ben\"?",
"teacherfaq.studentEndBody":"Pan fyddwch y dod â dosbarth i ben, bydd tudalen proffil eich dosbarth yn cael ei chuddio ac ni fydd yn bosib i'ch disgyblion fewngofnodi (ond bydd eu projectau a stiwdios y dosbarth yn weladwy o hyd ar y wefan). Cewch ail agor y dosbarth ar unrhyw adeg.",
"teacherfaq.studentForgetTitle":"Beth sy'n digwydd os fydd disgybl yn anghofio ei gyfrinair?",
"teacherfaq.studentForgetBody":"Mae modd i chi ailosod â llaw gyfrineiriau disgyblion sydd o fewn eich Cyfrif Athro Scratch. Yn gyntaf, ewch i Fy Nosbarthiadau (un ai o'r faner borffor ar y dudalen gartref neu yn y gwymplen nesaf at eicon y defnyddiwr). O'r fan honno, chwiliwch am y Dosbarth cywir a chlicio ar ddolen Disgybl. Gallwch ailosod y cyfrinair ar lefel y disgybl gan ddefnyddio dewislen Gosodiadau.",
"teacherfaq.studentUnsharedTitle":"A fedra i weld projectau disgyblion sydd heb eu rhannu?",
"teacherfaq.studentUnsharedBody":"Dim ond projectau disgyblion sydd wedi eu rhannu y mae gan athrawon fynediad atynt.",
"teacherfaq.studentDeleteTitle":"Fedra i ddileu cyfrifon disgyblion?",
"teacherfaq.studentDeleteBody":"Ni allwch ddileu cyfrif dysgwr trwy ddefnyddio Cyfrif Athro, ond mae modd dileu Cyfrifon Dysgwr trwy'r dudalen {accountSettingsLink} wrth fewngofnodi i'r Cyfrif Dysgwr.",
"teacherfaq.accountSettings":"Gosodiadau Cyfrif",
"teacherfaq.studentAddExistingTitle":"Mae gan rai o fy nysgwyr gyfrifon Scratch eisoes, sut mae eu hychwanegu at fy ystafell ddosbarth?",
"teacherfaq.studentAddExistingBody":"Nid yw'n bosibl ychwanegu cyfrif Scratch sy'n bodoli eisoes i ystafell ddosbarth. Bydd angen i chi greu Cyfrif Dysgwr newydd ar eu cyfer gan ddefnyddio'ch Cyfrif Athro.",
"teacherfaq.studentDiscussionBody":"Gallwch, gallwch gymryd rhan mewn trafodaethau gydag athrawon eraill yn {scratchEdLink}, cymuned ar-lein ar gyfer addysgwyr Scratch. Edrychwch ar eu {forumsLink} i ymuno â sgyrsiau am nifer o bynciau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Gyfrifon Athrawon. Mae ScratchEd yn cael ei ddatblygu a'i gefnogi gan Ysgol Addysg i Raddedigion Harvard.",
"teacherfaq.studentDataBody":"Pan fydd myfyriwr yn cofrestru ar Scratch gyntaf, gofynnwn am ddata demograffig sylfaenol gan gynnwys rhyw, oedran (mis geni a blwyddyn), gwlad, a chyfeiriad e-bost i'w wirio. Defnyddir y data hwn (ar ffurf agregedig) mewn astudiaethau ymchwil gyda'r nod o wella ein dealltwriaeth o sut mae pobl yn dysgu gyda Scratch.",
"teacherfaq.studentDataBody2":"Pan fydd addysgwr yn defnyddio Cyfrif Athro Scratch i greu Cyfrifon Dysgwyr, nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr ddarparu cyfeiriad e-bost. Rydym yn eich annog i ddarllen y {privacyPolicyLink} i gael mwy o wybodaeth.",
"teacherfaq.studentPrivacyLawsTitle":"A yw Scratch yn cydymffurfio â deddfau preifatrwydd data lleol a ffederal yr Unol Daleithiau?",
"teacherfaq.studentPrivacyLawsBody":"Mae Scratch yn poeni'n fawr am breifatrwydd myfyrwyr a phob unigolyn sy'n defnyddio ein platfform. Mae gennym weithdrefnau corfforol ac electronig ar waith i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn. Er nad ydym mewn sefyllfa i gynnig gwarantau cytundebol gyda phob endid sy'n defnyddio ein cynnyrch addysgol am ddim, rydym yn cydymffurfio â holl ddeddfau ffederal yr Unol Daleithiau sy'n berthnasol i sefydliad dielw 501 (c) (3). Rydym yn eich annog i ddarllen y {privacyPolicyLink} i gael mwy o wybodaeth.",
"teacherfaq.student250Title":"Rwyf am ychwanegu mwy na 250 o fyfyrwyr i ddosbarth, sut alla i wneud hyn?",
"teacherfaq.student250Body":"Nid yw'n bosibl ychwanegu mwy na 250 o fyfyrwyr i ddosbarth sengl. Fodd bynnag, gallwch greu dosbarth newydd ar y {myClassesLink} ac ychwanegu 250 o gyfrifon myfyrwyr eraill i bob dosbarth newydd.",
"teacherfaq.commHiddenBody":"Na. Bydd yr holl gynnwys sy'n cael ei rannu o fewn eich dosbarth ar gael i gymuned Scratch.",
"teacherfaq.commWhoTitle":"Gyda phwy fydd fy nisgyblion yn cael rhyngweithio ar Scratch?",
"teacherfaq.commWhoBody":"Mae gan gyfrifon disgyblion yr un breintiau cymunedol â chyfrifon arferol Scratch, fel rhannu projectau, gadael sylwadau, creu stiwdios ac yn y blaen. Fel athro, gallwch weld holl weithgaredd eich disgyblion a chynnal gwaith cymedroli ysgafn o fewn eich dosbarth.",
"teacherfaq.commInappropriateTitle":"Beth fedra i wneud os wela i rhywbeth anaddas?",
"teacherfaq.commInappropriateBody":"Gallwch gael gwared â sylwadau a phrojectau amhriodol a grëwyd gan eich dysgwyr â llaw. Os dewch o hyd i gynnwys amhriodol a grëwyd gan bobl nad ydynt yn ddysgwyr, rhowch wybod i’r Tîm Scratch trwy glicio ar y botwm ‘Adrodd’.",
"teacherfaq.commTurnOffCommentsTitle":"A gaf i ddiffodd y gallu i fyfyrwyr weld a chofnodi sylwadau?",
"teacherfaq.commTurnOffCommentsBody":"Na, nid oes modd i chi analluogi'r nodwedd sylwebu eich dysgwyr yn y Gymuned ar-lein. Gallwch ddewis iddiffodd y gallu i eraill adael sylwadau ar eu proffiliau a phob project unigol, ond nid oes nodwedd ar draws y wefan i gyfyngu ar adael sylwadau. Os nad yw gadael sylw yn teimlo’n iawn i’ch dysgwyr, efallai yr hoffech ystyried defnyddio’r {desktopLink} sy’n fersiwn all-lein o olygydd prosiect Scratch sydd ddim yn cynnwys y gymuned ar-lein.",
"teacherfaq.commBlockGamesTitle":"A allaf rwystro fy nysgwyr rhag chwarae gemau ar Scratch?",
"teacherfaq.commBlockGamesBody1":"Nid ydym yn dileu projectau sy'n gemau, nac wedi'u hysbrydoli gan gemau fideo poblogaidd oni bai eu bod yn cynnwys elfennau eraill a fyddai'n amhriodol i blant. Credwn fod plant yn dysgu orau wrth weithio ar brosiectau am bethau yn eu bywyd y maent yn angerddol amdanynt; un o'r pethau maen nhw'n aml yn angerddol amdano yw gemau.",
"teacherfaq.commBlockGamesBody2":"Os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw brojectau penodol sy'n cynnwys elfennau amhriodol, cliciwch y botwm 'Adrodd' sy'n ymddangos ar dudalen y project fel y gallwn gymryd camau priodol."